Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2022-26 yn nodi ein hamcanion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y pedair blynedd nesaf, a’r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hyn.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr delfrydol a chynyddu amrywiaeth ein gweithlu. Mae gennym sawl blaenoriaeth ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac rydym wedi datblygu pedwar amcan allweddol.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn hefyd yn defnyddio strategaethau eraill Archwilio Cymru, gan gynnwys ein Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, ein Strategaeth Iaith Gymraeg a’n Strategaeth Gyfathrebu
Yn ein cynllun, rydym hefyd wedi amlinellu ein gweledigaeth a gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.