Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • [Mae'r llun clawr wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Wybodaeth Llywodraeth Agored v3.0 Llywodraeth Cymru].

    Ym mis Chwefror 2020, fe gyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad interim a oedd yn bwrw golwg ar y prosiect i uwchraddio wyth cilometr o’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Caiff y gwaith uwchraddio rhwng Gilwern a Brynmawr ei adnabod fel y prosiect Rhan 2.

    Mae ein hadroddiad diweddaru’n disgrifio statws y prosiect a datblygiadau allweddol dros y pedair blynedd ers ein hadroddiad interim.

    Mae prosiect yr A465 Rhan 2 wedi goresgyn heriau peirianegol sylweddol, ac mae’r ffordd sydd wedi’i huwchraddio wedi bod ‘ar agor’ ers mis Tachwedd 2021, er bod peth gweithgarwch adeiladu cyfyngedig yn dal i fynd rhagddo. 

    ,
    Bellach mae Llywodraeth Cymru’n rhagfynegi cost i bwrs y wlad o oddeutu £327 miliwn am uwchraddio ffordd yr A465 Rhan 2. Mae’r ffigwr hwn ychydig yn uwch na’r un yn ein hadroddiad interim ym mis Chwefror 2020 ac yn llawer uwch nag amcanestyniadau cynharach.
    ,

    Mae’r prosiect eisoes yn dwyn rhai manteision ond mae hefyd wedi tarfu’n sylweddol ar gymunedau lleol.

    Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn dysgu gwersi o’r prosiect trwy newid ei chontractau adeiladu ac adolygu ei dangosyddion perfformiad ar gyfer contractwyr. 

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Prosiect ffordd pwysig yn tynnu tua’r terfyn ar ôl deng mlynedd anodd

    Gweld mwy
CAPTCHA