Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Prosiect ffordd pwysig yn tynnu tua’r terfyn ar ôl deng mlynedd anodd

13 June 2024
  • Mae costau uwchraddio Rhan 2 yr A465 wedi cael eu ffrwyno i raddau helaeth ers 2020, ond mae’r stori ar y cyfan yn un o godiadau sylweddol mewn costau ac oedi sylweddol

    Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos, er bod y ffordd sydd wedi’i huwchraddio wedi bod ar agor i draffig am beth amser, bod gwersi pwysig ar gyfer prosiectau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.

    Rhan 2 yw’r enw a roddir i’r prosiect i uwchraddio 8km o Ffordd Blaenau’r Cymoedd rhwng Gilwern a Brynmawr. Mae’r prosiect wedi goresgyn rhai heriau peirianegol sylweddol ac mae’n rhan o gynllun ehangach i uwchraddio 40km o’r A465.

    Mae Rhan 2 sydd wedi cael ei huwchraddio wedi bod ‘ar agor’ ers mis Tachwedd 2021. Fodd bynnag, mae peth gweithgarwch adeiladu cyfyngedig yn dal i fynd rhagddo ac mae negodiadau i ddatrys diffygion a diffinio’r gweithgareddau adeiladu terfynol wedi bod yn anodd ac yn faith.

    Mae Llywodraeth Cymru a Costain wedi bod yn anghytuno i ba raddau y mae’r ffordd wedi’i chwblhau. Mae Costain wedi dadlau, gan bod y ffordd yn weithredol, y dylid dyroddi tystysgrif cwblhau dan y contract adeiladu. Mae Llywodraeth Cymru wedi anghytuno â’r safbwynt hwn o ystyried bod peth gweithgarwch adeiladu’n dal i fynd rhagddo.

    Bellach mae Llywodraeth Cymru’n rhagfynegi cost i bwrs y wlad o oddeutu £327 miliwn, sydd ychydig yn uwch na’r ffigwr yn ein hadroddiad interim ym mis Chwefror 2020 ac yn llawer uwch nag amcanestyniadau cynharach. Mae hyn yn cyfateb i 46% (£103.5 miliwn) yn fwy nag a ragwelwyd pan ddechreuodd y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, mae risgiau ariannol wedi lleihau erbyn hyn o ystyried bod y gwaith adeiladu yn ei gamau olaf ac mae’r gost ragamcanol yn dal i fod o fewn y gyllideb uwch o £336 miliwn a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2019.

    Mae’r prosiect eisoes yn dwyn rhai manteision, er bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu adrodd yn llawnach arnynt. Mae data sylfaenol ar ddiogelwch ar y ffordd yn awgrymu gostyngiad mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys sefydlu academi hyfforddiant adeiladu ac mae wedi ennill gwobrau am ragoriaeth adeiladu, busnes yn y gymuned, a gwarchod cynefinoedd.

    Er gwaethaf y manteision hyn, mae’r tarfu o ganlyniad i achlysuron pan fu’r ffordd ar gau wedi arwain at gwynion gan yrwyr, trigolion yr effeithiwyd arnynt gan draffig y gwyriadau a busnesau lleol.

    Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn dysgu gwersi o’r prosiect trwy newid ei chontractau adeiladu ac adolygu ei dangosyddion perfformiad ar gyfer contractwyr.

    ,
    Mae’r A465 yn rhan bwysig o rwydwaith trafnidiaeth Cymru, ond mae’r gwaith i wella’r rhan hon wedi bod yn anodd i’r partïon a fu ynghlwm wrtho ac i’r cymunedau lleol yr effeithiwyd arnynt. Er bod costau disgwyliedig i bwrs y wlad wedi cael eu ffrwyno i raddau helaeth ers fy adroddiad interim yn 2020, mae stori’r prosiect ar y cyfan yn un o godiadau sylweddol mewn costau ac oedi sylweddol. “Mae’n dal i fod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n rhoi gwersi o’r prosiect hwn ar waith wrth iddi gyflawni cynlluniau yn y dyfodol, ac un prawf o hynny fydd effaith newidiadau a wnaed yn barod i’w threfniadau contractio. Ac er bod y gweithgarwch adeiladu wedi dod i ben i raddau helaeth, mae gan Lywodraeth Cymru waith i’w wneud o hyd i adrodd yn fwy llawn ar fanteision y prosiect, gan adeiladu ar y dystiolaeth hyd yma. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    A465 Rhan 2: Adroddiad diweddaru

    View more