Codi pryderon
Main navigation
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn croesawu gohebiaeth all ei helpu ef â’i waith. Ond noder, nid yw cwestiynu rhinwedd penderfyniadau polisi na chanolbwyntio ar gwynion personol yn rhan o’i waith, felly efallai na fyddwn yn y sefyllfa orau i'ch helpu chi.
Yn yr arweiniad i ohebwyr [PDF 320KB Agorir mewn ffenest newydd] rhoddwn wybodaeth ddefnyddiol a all fod o gymorth.
Gweithwyr
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn berson penodedig o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998. Efallai iddo dderbyn datgeliadau gan weithwyr ynglŷn â materion penodol, a gall datgeliadau o’r fath ddarparu amddiffyniad y gyfraith i’r gweithiwr. Ewch i'n hadran Chwythu'r chwiban i gael mwy o wybodaeth.
Aelodau o'r cyhoedd
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac am godi pryder penodol am sefydliad rydym yn ei archwilio, cysylltwch â ni drwy'r canlynol:
Rhif ffôn: 029 2032 0500
E-bost: post@archwilio.cymru
Drwy'r post:
Pennaeth Cynllunio ac Adrodd
Archwilio Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Os byddwch am gael mynediad i gyfrifon eich cyngor lleol, efallai y byddwch am ddarllen ein taflen ar y dde er mwyn archwilio, cwestiynu a gwrthwynebu cyfrifon eich cyngor.