Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Offeryn cynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol
Pan ddechreuom gynllunio ein gwaith ar gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol yn 2019 yr roedd yn erbyn cefndir o bwysau ariannol yn y sector cyhoeddus a'r galw cynyddol am rai gwasanaethau.
Cyn inni gyhoeddi'r rhan fwyaf o'n hadroddiadau ar ddechrau 2020, daeth cyllid y sector cyhoeddus o dan fawd costau mynd i'r afael â'r pandemig a'i effaith. Ers hynny, rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad cenedlaethol ar gynaliadwyedd ariannol (Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol - Effaith COVID-19, Adferiad a Heriau yn y Dyfodol a Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19) ac adroddiad ar bob cyngor ar gyfer 2019-20 a 2020-21
Wrth lunio'r adroddiadau hyn, casglwyd llawer o ddata ariannol gennym, y rhan fwyaf ohono yn yr adroddiadau lleol a chenedlaethol. Ond roeddem hefyd o'r farn y byddai'n ddefnyddiol sicrhau bod y data hwn ar gael mewn ffordd y gellir ei ddefnyddio i gymharu a gwrthgyferbynnu sefyllfa ariannol cynghorau, yn ogystal â pharciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub, ar draws ystod o ddangosyddion ariannol.
Rydym wedi ceisio cadw'r offeryn yn syml, fel y gall defnyddwyr gymharu pethau fel faint o gronfeydd ariannol wrth gefn a gedwir, gyda chyrff llywodraeth leol eraill a thros y pum mlynedd diwethaf.
Nid yw'r offeryn yn cynnwys unrhyw ddyfarniadau ar sefyllfa ariannol cyrff unigol. Rydym yn sylweddoli nad yw'r data ar ei ben ei hun yn adrodd holl stori sefyllfa ariannol sefydliad ac mae angen ei ystyried ochr yn ochr â ffactorau eraill fel pwysau yn ymwneud â galw a strategaethau ariannol. Ond rydym yn gobeithio y bydd yr offeryn yn helpu i adrodd peth o stori cyllid llywodraeth leol, ac yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd am ddeall ychydig mwy am sefyllfa cyrff unigol a'r sector llywodraeth leol yn ei gyfanrwydd.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r offeryn ar ôl cwblhau ein gwaith archwilio cyfrifon bob blwyddyn. Rydym hefyd yn awyddus i ddatblygu a mireinio'r offeryn a byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i wneud hyn wrth ystyried pa ddangosyddion ariannol eraill y gallem eu cynnwys.
Mae Tim Buckle yn Rheolwr Archwilio sy'n gyfrifol am ddylunio a datblygu'r rhaglen archwilio perfformiad llywodraeth leol. Mae ef gydag Archwilio Cymru ers 2013 ac ynghynt yr oedd yn gweithio i CLlLC yn ogystal â thri awdurdod lleol yn ne Cymru.