Fy mhrofiad fel un o hyfforddai Archwilio Cymru

03 Rhagfyr 2020
  • Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio, Mared Ynyr flogio am sut beth yw hi i fod yn hyfforddai yn y Archwilio Cymru.

    I gael gwybod rhagor am y cynllun, a sut i wneud cais, edrychwch ar ein gwefan [agorir mewn ffenest newydd].

    Ar ôl sefyll fy arholiad olaf yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd ym mis Mehefin 2018, roeddwn yn gwybod llawer mwy am ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac aneddiadau ysgariad nag y ro’n i am ddatganiadau ariannol ac archwilio'r sector cyhoeddus. Dair wythnos o wyliau yn ddiweddarach cyrhaeddais swyddfa Archwilio Cymru yng Nghaerdydd yn awyddus i gwrdd â gweddill fy ngharfan o hyfforddai ac yn barod i ddechrau ar her newydd. Mae gan Archwilio Cymru dimau ledled Cymru ac er fy mod yn wreiddiol o bentref ar gyrion Caernarfon, roeddwn yn awyddus i weithio o fewn tîm y De.

    Yn Archwilio Cymru maen nhw’n annog yr hyfforddeion, ta waeth ym mhle maent wedi’u lleoli, i feddwl am eu hunain fel uned, felly ymunais ag ystafell yn llawn o hyfforddai newydd o bob rhan o Gymru ar gyfer raglen ymsefydlu o bythefnos. Roedd y cyfnod ymsefydlu yn rhoi'r offer angenrheidiol i mi ddechrau ar fy archwiliad cyntaf erioed. Cefais fy nghyfeillio â hyfforddai a oedd ychydig o flynyddoedd yn uwch na mi, ac fe ymunais â nhw a’r tîm wrth archwilio Cyngor Bro Morgannwg, ac yna'r tîm archwilio Cyllid Amaethyddol. Roedd hyn cyn mynd i'r coleg i roi tân cychwynnol i'm hastudiaethau i fod yn gyfrifydd siartredig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Cefais brofiad gwych o fewn tîm y De ond ar ôl 15 mis symudais i dîm y gogledd a dwi heb ei ddifaru o gwbl. Dwi wedi parhau i gael fy nghefnogi a'm hyfforddi ac wedi derbyn ystod eang o gyfleoedd a phrofiadau yn y tîm ac ar draws y swyddfa.

    Gan neidio dros ddwy flynedd ymlaen,

    · Dwi wedi cyfrannu at archwiliad allanol un ar ddeg o wahanol sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys llywodraeth ganolog a chyrff cysylltiedig, llywodraethau lleol, byrddau iechyd ac elusennau.

    · Dwi wedi ymweld â sefydliadau'r sector cyhoeddus a chyfarfod â’u harweinwyr mewn swyddfeydd o Gaerdydd i Gaernarfon. Dwi hefyd wedi mynychu ymweliadau fferm ar Benrhyn Llŷn ac ym mryniau Sir Fynwy fel rhan o'r gwaith datguddio ar gyfer arolygiadau'r Cyllid Amaethyddol.

    · Dwi wedi cynrychioli Archwilio Cymru mewn ffeiriau gyrfa ac wedi cael cyfle i ddychwelyd i Ysgol Cyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd i siarad â myfyrwyr am waith Archwilio Cymru.

    Tra yn eistedd wrth fy nesg yn myfyrio ar y profiadau a'r cyfleoedd dwi wedi’u derbyn yn Archwilio Cymru hyd yma, dwi’n ddiolchgar am y cymorth y cefais i barhau yn fy astudiaethau proffesiynol, i weithio gyda chydweithwyr craff ac i deimlo bod fy nghyflogwr yn fy ngwerthfawrogi. Drwy gydol y pandemig covid-19 dwi wedi cael yr offer TG angenrheidiol i weithio gartref ac yn parhau i gael cyfarfodydd diweddaru a chwisiau wythnosol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad.

    Mae’r profiadau dwi wedi’u cael yn bod yn rhan o Dimau Archwilio Ariannol y De a’r Gogledd, a bellach ar secondiad gyda Thîm Cyfraith a Moeseg Archwilio Cymru, wedi mynd y tu hwnt i fy nisgwyliadau. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am y cynllun hyfforddai graddedig gydag Archwilio Cymru i wneud hynny.

    Mared Ynyr

    Ymunodd Mared Ynyr gyda Archwilio Cymru yn y rôl Hyfforddai Graddedig yn 2018. Ers ymuno, mae wedi gweithio ar archwiliadau Llywodraeth Ganolog, Llywodraeth Leol a Chyrff y GIG. Ar hyn o bryd mae Mared ar secondiad mewnol gydag Adran y Gyfraith a Moeseg. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, astudiodd Mared y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.