Arolwg pobl
Rydym am i Archwilio Cymru fod yn le y mae pobl yn falch o weithio ynddi ac yn mwynhau'r hyn y maent yn eu gwneud, gydag amgylchedd sy’n gwrando ac yn gynhwysol lle gall pawb ragori.
Main navigation
Main navigation
Bob blwyddyn rydym yn cynnal arolwg i ofyn i'n staff sut beth yw gweithio yma, er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cadw ein golygon ar brofiad ein cyflogeion.
Gellir gweld canlyniadau'r arolygon hyn, o 2017 i'r presennol, drwy ein offeryn data rhyngweithiol [agorir mewn ffenest newydd]
Rydym yn defnyddio'r un holiadur craidd a ddefnyddir yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil (CSPS) [agorir mewn ffenest newydd].
Mae'r holiadur yn ymdrin ag ystod o themâu, gan gynnwys:
- Arweinyddiaeth a rheoli newid
- Adnoddau a llwyth gwaith
- Dysgu a datblygu
- Cynhwysiant a thriniaeth deg
- Diwylliant sefydliadol
- Tâl a budd-daliadau
Mae'r offeryn data yn darparu dadansoddiadau canrannol o'r ymatebion ar gyfer pob un o'r datganiadau profiad gweithwyr yn yr holiadur. Mae hefyd yn galluogi cymariaethau i gael eu gwneud gyda meincnodau a pherfformiad CSPS mewn blynyddoedd blaenorol.