Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Ymddiriedolaeth y GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru – Adolygiad o Drefniadau Gwella Costau
14 Ionawr 2025
Gwnaed yr archwiliad hwn i gyflawni dyletswydd statudol yr Archwilydd Cyffredinol o dan Adran 61 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i fod wedi’i argyhoeddi bod gan Ymddiriedolaeth drefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran sut y mae’n defnyddio ei adnoddau.
At ei gilydd, nodwyd gennym fod gan yr Ymddiriedolaeth drefniadau clir ar gyfer nodi a chyflawni ei gyfleoedd i wella costau a monitro ei sefyllfa ariannol gyffredinol. Fodd bynnag, mae ansicrwydd ynghylch cyllid cynyddu ar sail chwyddiant y bydd angen ei reoli yn y tymor canolig a’r tymor hir.