Clawr cyhoeddiad Archwilio Cymru gyda'i logo
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre – Asesiad Strwythuredig 2022

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau gwaith asesu strwythuredig 2022 yr Archwilydd Cyffredinol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (yr Ymddiriedolaeth). Nod ein gwaith asesu strwythuredig yw helpu i ryddhau gofyniad statudol yr Archwilydd Cyffredinol i fod yn fodlon bod cyrff y GIG wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn eu defnydd o adnoddau o dan adran 61 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Ar y cyfan, gwelsom fod yr Ymddiriedolaeth yn gyffredinol yn cael ei harwain a'i llywodraethu'n dda, gyda gweledigaeth a blaenoriaethau strategol clir, gwella systemau sicrwydd, a threfniadau effeithiol ar gyfer rheoli ei chyllid ac adnoddau eraill.

Pecyn cymorth

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA