Clawr adrodd gyda llun o felin wynt a thestun -Dulliau o sicrhau sero net ledled y DU
Dulliau o sicrhau sero net ledled y DU

Darn o waith ar y cyd rhwng swyddfeydd archwilio cyhoeddus pedair gwlad y DU – Archwilio yr Alban, Archwilio Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon – yw’r adroddiad hwn ac fe’i lluniwyd ag ymgysylltiad gan bob priod lywodraeth neu weinyddiaeth. Mae’n nodi deddfwriaeth, polisi, strategaeth, trefniadau llywodraethu a monitro Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig sy’n berthnasol i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.

Mae sawl nod i’r gwaith yma:

  • Disgrifio sut y mae’r cyfrifoldebau a’r pwerau ar gyfer cyrraedd y targed sero net wedi’u rhannu rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r llywodraethau datganoledig
  • Darparu mewnwelediad ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus am ddull cyffredinol pob un o wledydd y DU ar gyfer cyflawni sero net.
  • Rhoi cymorth i graffu ar drefniadau’r llywodraethau i gyflawni sero net.
  • Gosod y sylfeini ar gyfer gwaith pellach posibl ar newid hinsawdd gan swyddfeydd archwilio cyhoeddus y DU

Mae newid hinsawdd yn un o heriau diffiniol ein cenhedlaeth. Rhaid i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig weithredu ar y cyd i gyflawni eu hamcan i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ledled y DU i ‘sero net’ erbyn 2050. Mae’r pwerau y mae eu hangen i wneud hyn yn nwylo Llywodraeth y DU (pwerau a gedwir) a llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (pwerau datganoledig). Wrth fwrw golwg ledled y DU, rydym wedi adnabod pedair thema allweddol.

Mae gan y pedair gwlad broffiliau allyriadau gwahanol a dulliau amrywiol o gyflawni sero net, ond yn y pen draw rhaid i’r dewisiadau a wnânt gyflawni sero net ar lefel y DU.

O ystyried y gwahanol dargedau sero net, cyllidebau carbon a pholisïau ar draws y gwledydd, bydd cyfleoedd i’r llywodraethau ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Mae cyflawni sero net mewn unrhyw wlad unigol yn dibynnu ar weithredu ar lefel y DU, ac mae’r un peth yn wir fel arall hefyd.

Bydd perthnasoedd gweithio effeithiol ac ymgysylltu clos rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn hollbwysig i gyrraedd y nod o ran sero net ar y cyfan.

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA