Clawr adroddiad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gwaith Dilynol ar yr Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd

Fe wnaed y gwaith ar y cyd gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.

Yr hyn a ganfuom

Nododd ein hadolygiad dilynol fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ymdrin â phryderon ac argymhellion ein hadroddiad yn 2019.

Mae ganddo ffocws strategol cryfach ar ansawdd a diogelwch cleifion, ac mae mwy o eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch cleifion o gymharu â 2019.

Related News

Mae trefniadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer gwirio ansawdd a diogelwch gofal cleifion wedi gwella'n sylweddol

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA