Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned

06 Gorffennaf 2018
  • Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar ‘Reoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned’. 

    Fideo
    Title
    Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned
    Embed URL
    https://www.youtube.com/embed/g-7VQ2YU5Yc

    Mae cynghorau cymuned Cymru yn rheoli symiau sylweddol o arian ac yn dal cronfeydd wrth gefn ac asedau o werth sylweddol, sy'n debygol o gynyddu yn y dyfodol. Mae rhai o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

    • Mae angen i gynghorau cymuned wella eu hamseroldeb o ran paratoi eu cyfrifon blynyddol ac ansawdd y ffurflenni blynyddol a gyflwynir i'w harchwilio
    • Mae angen i'r sector cyfan wella ei drefniadau ar gyfer pennu cyllidebau.
    • Mae angen i gynghorau cymuned ddangos bod ganddynt system archwilio mewnol ddigonol ac effeithiol ar waith, a'u bod yn cael gwerth llawn o'r gwasanaeth hwnnw.

    Nododd yr archwilwyr nifer o faterion sy'n codi dro ar ôl tro y gallai cynghorau ledled Cymru ddysgu oddi wrthynt. O ganlyniad i hyn, gwnaethom gynnal gweminar i rannu enghreifftiau o arfer a dysgu da, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gyllidebu ac Archwiliadau Mewnol. Gwnaeth y gweminar ddwyn ynghyd yr arferion diweddaraf o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

    Canfu'r adroddiad fod gan gynghorau cymuned yng Nghymru le i wella o hyd o ran datblygu a gwella rheoli ariannol a llywodraethu yn arbennig mewn perthynas ag ansawdd cyflwyno adroddiadau ariannol, rheoli ariannol a threfniadau archwilio mewnol.

    Fideo