Pwyllgorau Archwilio: arferion effeithiol ac effaith gadarnhaol
06 June 2024
-
Bu i'r digwyddiad yma roi cyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru.
Mae trefniadau llywodraethu da yn rhan hanfodol o'r ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu yn effeithiol ac yn darparu gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth am arian ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.
Mae Pwyllgorau Archwilio yn gonglfeini er mwyn cefnogi llywodraethu da. Gyda phwysau mawr ar gyllid y sector gyhoeddus ar hyn o bryd ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy o angen am arferion effeithiol a chael effaith gadarnhaol. Mae gan Bwyllgorau Archwilio rôl allweddol wrth gyflawni hyn.