Gweminar Gwireddu Buddiannau

06 Gorffennaf 2018
  • Tachwedd 2016 - Wrth adael y weminar hon, bydd gan unigolion ddealltwriaeth glir o'r llwybr/dull critigol y mae angen i unigolion ei ddilyn i'w galluogi i wireddu buddiannau eu Rhaglen.

    Fideo
    Title
    Gweminar Gwireddu Buddiannau
    Embed URL
    https://www.youtube.com/embed/I_0L3Prnd-o

    Gyda'r Sefydliad Rheoli Prosiectau ac Arfer Da Cymru, cynaliasom weminar am ddim ar Wireddu Buddiannau, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil diweddaraf ledled Ewrop ar yr arferion diweddaraf o Ewrop a'r tu hwnt. Trwy rannu'r ymchwil hon, ystyriasom hefyd ystyr hyn o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

    Mae Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwario miliynau o bunnoedd ar brosiectau na chânt fyth eu gorffen. Yn aml, nid oes a wnelo'r rheswm unrhyw beth ag ansawdd y targedau cyflawnadwy. Yn amlach na pheidio nid oes yr amser, yr egni na'r brwdfrydedd i wneud yn siŵr y caiff y cynnyrch neu'r gwasanaeth ei fabwysiadu a'i ymgorffori yn y sefydliad. Mae'n ymwneud â Thîm y Rhaglen a Rheoli Prosiect sydd wedi symud ymlaen i'r prosiect nesaf neu sydd wedi diddymu yn amlach na pheidio.

    Fideo