FIDEO - Ailddiffinio ein bywydau: Tuag at Ddealltwriaeth Gymdeithasol o Niwroamrywiaeth

27 Awst 2024
  • Yn ddiweddar, cynhaliais sgwrs am niwroamrywiaeth, fel rhan o'n cyfres barhaus 'Sgwrs a Phaned'.

    Webinar recording
    Title
    Ailddiffinio ein bywydau: Tuag at Ddealltwriaeth Gymdeithasol o Niwroamrywiaeth
    Embed URL
    https://www.youtube.com/embed/K2PteSm04hI

    Mae'r sgwrs yn canolbwyntio ar sut mae'r ffordd rydyn ni'n meddwl am awtistiaeth yn llywio sut mae mannau cyhoeddus a gwasanaethau yn 'galluogi' neu yn 'analluogi' pobl ar y sbectrwm, yn ogystal â chyflwyno ffyrdd amgen o ystyried anabledd.

    Yn benodol, mae'r sesiwn yn cefnogi creu fframwaith o ddealltwriaeth gymdeithasol o niwroamrywiaeth. Hynny yw, un sy'n ffafrio gweld yr heriau y mae pobl niwroamrywiol yn eu hwynebu o ganlyniad i rwystrau economaidd a chymdeithasol, ac nid fel tystiolaeth eu bod yn eu hanfod wedi 'torri'.

    Drwy gydol y cyflwyniad, rwy'n tynnu ar brofiad personol, gan herio llawer o'r camsyniadau am awtistiaeth, yn ogystal â disgrifio'r broses o ddod i ddeall y cyflwr i mi fy hun.

    Gallwch wylio'r sesiwn yn llawn isod:

    Webinar recording