Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ann-Marie Harkin
Ganed Ann-Marie Harkin yn Weston Super Mare a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd La-Retraite i ferched ym Mryste cyn mynychu Prifysgol Caerdydd i astudio Ffrangeg ac Almaeneg.
Graddiodd Ann-Marie yn 1986 â B.A. (Anrh), ac yna symudodd ymlaen at gyfrifyddiaeth, gan ymuno â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn yr un flwyddyn fel Archwilydd Cynorthwyol.
Cyflawnodd Ann-Marie statws CIPFA gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 1989 ar ôl gweithio yn ystod y cyfnod hwn yn archwilio'r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghaerfaddon ac yn ddiweddarach y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Fel uwch a phrif archwilydd gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol roedd ganddi rôl amrywiol, yn cwmpasu gwaith archwilio ariannol a pherfformiad yng Nghymru a chyda'r Cynghorau Ymchwil yn Swindon. Ymgymerodd â nifer o secondiadau hefyd, gan gynnwys un i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i adolygu trefniadau rheoli asedau ac un arall i gwmni Cyfrifwyr Siartredig Ernst and Young lle y bu'n gysylltiedig â'r gwaith o archwilio sawl cwmni sector preifat.
Yn 1999 daeth Ann-Marie yn Ysgrifennydd Preifat i Archwilydd Cyffredinol cyntaf Cymru (Syr John Bourn), a chymerodd ran yn y gwaith o sefydlu swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru ym Mae Caerdydd a sefydlu protocolau ar gyfer gweithio gyda Phwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl tair blynedd yn y rôl hon ymgymerodd â rôl Rheolwr, gan reoli archwiliadau ar gyfer y Cyngor Chwaraeon, Cyngor y Celfyddydau, DVLA ac elusennau gwahanol.
Ymunodd Ann-Marie â Swyddfa Archwilio Cymru pan gafodd ei ffurfio yn 2005. Mae hi'n Gyfarwyddwr Archwilio Ariannol ac Arweinydd Ymgysylltu ar nifer o gyfrifon gan gynnwys Heddlu De a Gogledd Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ogystal â chynnal brîff gwaith i'n hyfforddeion Archwilio Ariannol. Yn 2016 enillodd Ann-Marie Wobr Fawreddog Merched Cymru mewn Arweinyddiaeth.
Y tu allan i Archwilio Cymru mae Ann-Marie yn mwynhau darllen a theithio, ac mae ganddi ddiddordeb penodol yn yr Eidal.
Ann-Marie Harkin - hysbysiad o gofrestru buddiannau [PDF 86KB agorir mewn ffenest newydd]