Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwasanaethau Plant

  • plant yn chwarae
  • Beth rydyn ni'n ei wneud

    Bydd yr astudiaeth yn bwrw golwg ar sut mae cynghorau'n bwriadu gwella gwerth am arian eu gwasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, tra'n cydymffurfio â pholisi Llywodraeth Cymru o ddileu elw yn y maes hwn erbyn 2030. Byddwn yn ystyried cynllunio a rhag-weld ariannol a rheoli'r galw am wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Byddwn hefyd yn ystyried sut mae cynghorau yn cynnwys rhanddeiliaid, yn enwedig plant sydd â phrofiad o ofal i wella canlyniadau. Byddwn hefyd yn ystyried sut mae Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill, yn gweithio gyda chynghorau wrth drosglwyddo i wasanaethau nid-er-elw erbyn 2030. 

    Pam rydyn ni'n ei wneud

    Mae gan gynghorau gyfrifoldeb cyfreithiol i ddod o hyd i leoliadau priodol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan y wladwriaeth, oherwydd nad yw eu teuluoedd eu hunain yn fodlon neu'n methu gwneud hynny'n ddiogel. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 28% ers 2015, ac mae gwariant mewn termau real ar wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu 67% o £332m yn 2014-15 i £555m yn 2023-24. Un o ddarpariaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (y Ddeddf) yw dileu elw o faes gofal plant sy'n derbyn gofal erbyn 2030. Bydd angen i gynghorau ystyried nifer o faterion wrth weithio i gydymffurfio â'r amserlen hon. 

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Gwanwyn 2026