Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Canolfan Ganser newydd Felindre

  • Claf yn derbyn cyngor gan feddyg
  • Beth rydyn ni'n ei wneud

    Mae'r gwaith hwn yn archwilio'r broses o wneud penderfyniadau ar Ganolfan Ganser newydd Felindre gan Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae'r Ganolfan newydd yn ganolog i Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne-ddwyrain Cymru'r Ymddiriedolaeth.

    Pam rydyn ni'n ei wneud

    Bu cryn ddadlau ynghylch y cynigion, gan gynnwys ynghylch y model gwasanaeth, lleoliad, ariannu, a chaffael. Byddwn yn ystyried a fu sail gadarn ar gyfer penderfyniadau allweddol. Ein prif ffocws yw datblygiadau o amgylch ac ers cymeradwyo'r achos busnes amlinellol yn gynnar yn 2021.

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Haf 2025