Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ar y cyfan, mae rhestrau cleifion practisau meddygon teulu yn iach

15 Ionawr 2026
  • Dim tystiolaeth uniongyrchol o dwyll posibl, ond nodwyd nifer fach o wallau  

    Roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar gleifion sydd wedi’u cofrestru ddwywaith neu unigolion sydd wedi marw nad ydynt wedi'u dileu o restrau cleifion yn amserol.

    Fe wnaethom ymgysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gynnal ymarfer peilot paru data ar restrau cleifion practisau Meddygon Teulu. Ein prif nod oedd canfod unrhyw dystiolaeth o dwyll a/neu wallau posibl. Fodd bynnag, roeddem hefyd eisiau nodi ffyrdd y gallai fod angen i GIG Cymru wella ei brosesau ei hun o ran rhestrau cleifion meddygon teulu.

    Mae'r ffordd y mae practisau meddygon teulu yn cael eu talu yn gymhleth, ond nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practis sydd wrth wraidd hynny. Mae risg twyll cynhenid yn y dull talu hwn. Gall cadw cydbwysedd  priodol ar gywirdeb rhestrau cleifion meddygon teulu helpu i reoli'r risg hon.

    Yn ogystal â sicrhau bod practisau meddygon teulu yn cael y cyllid cywir, mae rhestrau cleifion cywir yn cefnogi rheolaeth ehangach gofal sylfaenol. Maent hefyd yn helpu i sicrhau bod y GIG yn rhoi mynediad amserol ar gyfer gwasanaethau fel sgrinio; atal materion fel cleifion na ddylent fod wedi’u cofrestru yn atal gwahoddiadau i apwyntiad.

    Ni wnaethom nodi unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o dwyll posibl yn y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn ein gwaith. Fe wnaethom, fodd bynnag, ddod o hyd i nifer fach o wallau. Yn fwy penodol:

    • Fe wnaethom nodi nifer gymharol fach o gleifion wedi’u cofrestru ddwywaith; 140 hyd yma ond gyda 395 o barau posibl yn dal i gael eu hymchwilio iddynt.
    • Dim ond nifer fach iawn o unigolion sydd wedi marw – 15 – oedd ar restr cleifion meddygon teulu, ond roedd rhai wedi bod ar y rhestrau hynny ers amser maith.
    • Mae cleifion sydd wedi’u cofnodi ddwywaith a chofnodion cleifion sydd wedi marw yr ydym wedi’u nodi yn golygu bod cyllid meddygon teulu wedi'i ddyrannu'n anghywir, ond mae'r swm dan sylw yn isel.

    Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod rheolaethau chwyddiant rhestrau cleifion yn y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn yr ymarfer yn gyffredinol gadarn. Fodd bynnag, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithio i wella ei rheolaethau canolog cyffredinol. Mae newidiadau diweddar hefyd wedi bod i'r system TG ehangach sy'n cynnwys Cymru, Lloegr ac Ynys Manaw.

    ,
    Mae paru data a thechnegau dadansoddi data eraill yn fwyfwy pwysig wrth i gyrff cyhoeddus ymdrin â risgiau sy'n ymwneud â thwyll a gwall. Nid yw'r canlyniadau o'r ymarfer hwn wedi nodi pryderon sylweddol ynghylch cywirdeb rhestrau cleifion meddygon teulu ac mae hynny'n beth da. Ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Felly, rwy'n croesawu'r ffordd y mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi bwrw ymlaen â dysgu o'r ymarfer hwn fel rhan o'r gwelliannau ehangach y mae eisoes wedi'u gwneud. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Gwirio’r cleifion. Canlyniadau o ymarfer paru data peilot ar restrau cleifion meddygon teulu

    Gweld mwy