Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Yr Archwilydd Cyffredinol yn trafod newidiadau demograffig a'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus ar BBC Cymru Fyw

17 Chwefror 2022
  • Darllen mwy

    Mae'n hysbys ac yn cael ei drafod yn eang fod gennym boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru, ond rhoddwyd llai o sylw i'r hyn sy'n digwydd ym mhen arall y sbectrwm oedran, lle mae'r gyfradd genedigaethau yng Nghymru wedi gostwng 19% dros y degawd diwethaf.

    Mae hyn o bwys gan y caiff cyfraddau genedigaethau sy’n gostwng effaith ar ysgolion, gwasanaethau mamolaeth, darpariaeth gofal plant, gwasanaethau ieuenctid ac addysg bellach.

    Mae'n bwysig i ni gan fod newidiadau demograffig sylfaenol fel hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gost ac ansawdd gwasanaethau cyhoeddus.

    Buom yn blogio am hyn yn ddiweddar, a dyna pam y daeth hyn i sylw'r BBC.

    ,
    Y neges sylfaenol yw bod angen inni feddwl a chynllunio i’r tymor hir.
    ,

    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) [agorir mewn ffenestr newydd] yn gosod dyletswydd statudol ar y sector cyhoeddus i feddwl a chynllunio ar gyfer y tymor hir, i weithio'n well gyda'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac i atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf yn hytrach na dim ond trin y symptomau. Dyma'n union sydd ei angen wrth inni ddod allan o'r pandemig, er ei fod yn heriol i arweinwyr a gwleidyddion y sector cyhoeddus pan fo cymaint o bwysau mwy uniongyrchol.

    Mae siâp newidiol y boblogaeth a drafodwyd yn sioe BBC Cymru Fyw, a ddarlledwyd ar 16 Chwefror, yn dangos pam ei bod mor bwysig ein bod yn meddwl ar gyfer y tymor hir ac yn gwneud penderfyniadau heddiw i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus y bydd eu hangen yfory yn cael eu darparu.

    Gallwch ddal i fyny â chyfweliad Adrian ar wefan y BBC [agorir mewn ffenest newydd].