Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Yr Archwilydd Cyffredinol yn lansio Cod diwygiedig i archwilwyr

29 Hydref 2020
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Archwilio diwygiedig, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni.

    Mae'r Cod yn nodi'r egwyddorion y mae'n rhaid i archwilwyr allanol eu dilyn wrth wneud gwaith archwilio ar ei ran. Mae'r ddogfen hefyd yn rhoi manylion am yr hyn mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei ystyried yn arfer proffesiynol gorau.

    Ochr yn ochr â gofynion cyfreithiol a phroffesiynol penodol, rhaid i archwilwyr ddilyn pedair egwyddor allweddol – canolbwyntio ar y cyhoedd, bod yn annibynnol, yn gymesur ac yn atebol. Mae angen iddynt ystyried hefyd sut i gymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn unol â chanllawiau y bydd yn eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd.

    Mae'r ddogfen, a gyhoeddir heddiw, yn darparu rhagor o wybodaeth i archwilwyr am y pedair egwyddor ac yn rhoi manylion am ofynion eraill, y mae angen iddynt eu dilyn wrth wneud eu gwaith.

    Ymgynghorodd yr Archwilydd Cyffredinol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys cyrff cyhoeddus Cymru a staff Swyddfa Archwilio Cymru, cyn cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig hon o'r Cod Ymarfer Archwilio, sy'n adlewyrchu newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad.

    Darllenwch ein Cod Ymarfer Archwilio.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cod Ymarfer Archwilio

    Gweld mwy