Yn falch o gael ein henwi yn un o Ddeg Cyflogwr Gorau Working Families 2023

Mae'r elusen genedlaethol, Working Families [agor i'r mewn ffenestr newydd], ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n gweithio, wedi cyhoeddi bod Archwilio Cymru wedi ennill lle ar ei rhestr anrhydeddus a chystadleuol o'r cyflogwyr hyblyg ac addas i deuluoedd gorau yn y DU.
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae cyflogwyr mawr a bach o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn cystadlu'n flynyddol i ennill lle anrhydeddus ar restr yr elusen o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio.
Y Deg Cyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio eleni – yn nhrefn yr wyddor - yw:
- Archwilio Cymru
- Citigroup
- Grant Thornton
- Grŵp NatWest
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Imperial College London
- North East London NHS Foundation Trust (NELFT)
- Pinsent Masons
- Senedd Cymru
- Yorkshire Building Society
Aseswyd cyflogwyr gan ddefnyddio Meincnod Working Families a chawsant eu sgorio i greu darlun cynhwysfawr o'u polisïau a'u harferion hyblyg a chroesawgar i deuluoedd sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr yn benodol.
Rydym wrth ein bodd gyda'n safle ar restr 10 cyflogwr gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio 2023. Mae'n wych gweld ein hymrwymiad i adeiladu gweithle hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd yn cael ei gydnabod fel hyn.