Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Y GIG yn gwario £501 miliwn ychwanegol wrth ymdrin â COVID-19 hanner ffordd drwy’r flwyddyn

27 Tachwedd 2020
  • Mae ein hofferyn data newydd yn dangos gwariant ychwanegol pob corff y GIG o ganlyniad i’r pandemig a’u sefyllfaoedd ariannol presennol

    Bu angen ymateb enfawr gan GIG Cymru yn sgil COVID-19, gyda’r angen am fwy o adnoddau mewn meysydd megis staffio, offer, cyffuriau, offer TG a gwasanaethau. Hanner ffordd drwy’r flwyddyn eithriadol hon, adroddodd cyrff y GIG mai £501 miliwn oedd cyfanswm cost net gweithgarwch yn gysylltiedig â COVID-19.

    Dau o’r meysydd gwario allweddol oedd cyfarpar diogelu personol (£130 miliwn) a staffio (£109 miliwn), gyda chyrff yn defnyddio cymysgedd o oramser, staff asiantaeth, myfyrwyr a dychwelwyr. Sefydlu a rhedeg ysbytai maes (£122 miliwn) a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (£30 miliwn) oedd y prosiectau gwariant mawr. Erbyn mis Medi, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £469 miliwn o gyllid i gyrff y GIG ar gyfer costau yn gysylltiedig â COVID-19.

    Nodir y costau hyn a sefyllfaoedd ariannol cyffredinol yn ein hofferyn data newydd a gyhoeddwyd heddiw.

    Yn ogystal â chostau uniongyrchol, mae COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau arferol y GIG, ac felly ar gyllid, mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn ddealladwy, mae cyrff y GIG wedi ei chael hi’n anodd gwneud arbedion ac yn rhagweld £72 miliwn yn llai nag yr oeddent yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, caiff hyn ei fantoli gan ostyngiad o £100 miliwn mewn costau oherwydd oedi gweithgarwch a gohirio buddsoddiad.

    Yn gadarnhaol, er gwaethaf y pandemig, mae sefyllfa ariannol gyffredinol GIG Cymru yn sefydlog o’i chymharu â’r llynedd, gan gymryd bod Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn ariannu costau sy’n gysylltiedig â COVID-19. Mae cyrff y GIG yn adrodd bod cyfanswm y diffyg canol blwyddyn yn £43 miliwn, gyda’r diffyg diwedd blwyddyn a ragwelir yn £91 miliwn. Prin yw’r newid yn y sefyllfaoedd hyn o’u cymharu â’r llynedd pan oedd y diffygion canol blwyddyn a diwedd blwyddyn yn £46 miliwn ac £89 miliwn yn y drefn honno.

    Yn yr un modd â’r llynedd, mae tri chorff y GIG yn rhagweld diffyg. Er bod sefyllfa BIP Hywel Dda wedi gwella a bod sefyllfa BIP Betsi Cadwaladr yn ymddangos yn debyg i’r llynedd i raddau helaeth, mae sefyllfa BIP Bae Abertawe yn parhau i ddirywio. [Ers cyhoeddi’r ffigurau hyn y mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gyllid cymorth strategol i BIP Betsi Cadwaladr sy’n cynnwys £40 miliwn i fantoli’r diffyg a ragwelir ar gyfer y flwyddyn bresennol].

    ,
    Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol i gyrff y GIG ac mae costau ariannol rheoli’r pandemig wedi bod yn sylweddol.  Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y gwelliant cyffredinol i iechyd ariannol GIG Cymru, parhaodd sawl bwrdd iechyd i gofnodi diffygion blynyddol, ac mae’n edrych yn debygol y bydd hyn yn parhau yn 2020-21. Fodd bynnag, mae’n braf gweld, yn gyffredinol, gan gymryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gost o ymdrin â COVID-19, nad yw sefyllfa ariannol gyffredinol GIG Cymru wedi gwaethygu wrth fynd i’r afael ag effeithiau eithriadol y pandemig. Byddaf yn disgwyl gweld llywodraethu da o ran y gwariant ychwanegol a chraffu cadarn ar geisiadau am gyllid ychwanegol a wneir gan gyrff y GIG. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae’r offeryn data hwn yn amlygu gwariant GIG Cymru o’i gymharu â’r llynedd, yn ogystal â’r gwariant oherwydd COVID-19 ar gyfer pob corff o’r GIG hyd at fis Medi 2020.
    • Mae Archwilio Cymru wrthi’n cynnal adolygiadau gwerth am arian o agweddau ar wariant COVID-19 ar hyn o bryd. Rydym yn ystyried pa mor dda y mae cyrff cyhoeddus yn ymateb i’r heriau o ddarparu’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu. Rydym hefyd yn adolygu’r broses o gaffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol.
    • Trwy gydol y pandemig, mae Archwilio Cymru wedi bod yn nodi ac yn rhannu arferion da yn ei Brosiect Dysgu am Covid-19.
    • Ar 3.11.2020, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddatganiad i gyfarfod llawn y Senedd pryd cyflwynodd raglen o gymorth strategol i BIP Betsi Cadwaladr a oedd yn cynnwys £40 miliwn i fantoli’r diffyg canol blwyddyn, £30 miliwn i gynorthwyo gofal heb ei drefnu a gofal wedi’i gynllunio, a £12 miliwn i gynorthwyo gwella perfformiad a gweithredu strategaeth iechyd meddwl y BIP.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Mae’n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £20 biliwn o gyllid y pleidleisir arno yn flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw’r gwaith archwilio hwn yn destun cyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na’r llywodraeth. 
    • Corff corfforedig yw Swyddfa Archwilio Cymru, yn cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, ynghylch arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw Archwilio Cymru ei hun yn endid cyfreithiol.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Offeryn Data Cyllid GIG Cymru

    Gweld mwy