Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym wrth ein bodd i ddathlu Wythnos Prentisiaethau 2022
Mae Wythnos Prentisiaethau yn dathlu prentisiaid a rhaglenni prentisiaeth am wythnos gyfan.
Eleni, cynhelir yr wythnos rhwng 7 a 13 Chwefror ac mae’n bwriadu tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau a datblygu'r sgiliau priodol i ddiogelu gyrfaoedd a busnesau yn y dyfodol.
Drwy gydol yr wythnos, byddwn yn rhannu straeon gan brentisiaid blaenorol a chyfredol, yn ogystal â siarad â rhai o'n rheolwyr tîm ar ba fanteision a gwerth y mae prentisiaid yn dod â hwythau.
Mae gennym flogiau, podlediadau a fideos sydd i gyd am ein prentisiaethau felly cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion.
Ydych chi'n gyflogwr ac eisiau gwybod am fanteision cynlluniau prentisiaeth? Byddwn yn fyw ar Twitter ddydd Mawrth 8 Chwefror rhwng 12 a 2 o’r gloch yp, defnyddiwch yr hashnod #AskAnEmployer a gofyn eich cwestiynau!
Ydych chi'n ystyried ar hyn o bryd ai prentisiaeth yw'r llwybr iawn i chi? Byddwn hefyd yn fyw ar Twitter ddydd Mercher 9 Chwefror rhwng 12 a 2 o’r gloch yp i ateb eich cwestiynau ar ein cynllun prentisiaeth. Defnyddiwch yr hashnod #AskAnApprentice.
Dilynwch ni ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol isod i ymuno â’n dathliad.
Twitter: @WalesAudit [opens in new window]
Facebook: @auditwales [opens in new window]
LinkedIn: Audit Wales [opens in new window]
Gallwch ganfod rhagor o fanylion am Wythnos Prentisiaethau ar wefan y llywodraeth [agorir mewn ffenest newydd].