Trem yn ôl dros 2018

09 Tachwedd 2020
  • Wrth inni fwrw golwg dros 2018, rydym ni wedi dewis rhai o’n huchafbwyntiau o’r flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys y pethau yr ydym ni’n falch o fod wedi eu cyflawni a rhai o’r llwyddiannau yr ydym ni wedi eu dathlu.

    Yn bennaf oll, ein hamcan yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod pa un a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i adnabod a chyhoeddi arferion da.

    Rydym ni wedi dewis 12 uchafbwynt sy’n dangos sut yr ydym ni wedi cyflawni’r amcanion hyn.

    O fis Ionawr i fis Mehefin

    Ym mis Ionawr fe wnaethom ni gyhoeddi dau adroddiad o bwysigrwydd cenedlaethol. Roedd y cyntaf yn galw am ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd yng Nghymru. Roedd yr ail adroddiad yn rhoi sylw i “wybodeg” yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru – sut y caiff gwybodaeth ei chasglu, ei rheoli, ei defnyddio a’i rhannu. Gwelsom fod gan GIG Cymru weledigaeth glir ar gyfer y Cofnod Electronig am Gleifion, ond fe wnaethom ni ddweud hefyd bod angen gwneud mwy o waith er mwyn cyflawni hynny.

    Ym mis Mai, cynhaliwyd cynhadledd gennym ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf). Roedd y gynhadledd yn gyfle i sôn am ganfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol yn fwy manwl wrth gyrff cyhoeddus, rhannu’r hyn a ddysgwyd o brosiectau archwilio arbrofol yr Archwilydd Cyffredinol, ac ystyried y camau nesaf ar gyfer y dyfodol.

    Ym mis Mehefin fe wnaethom ni lansio crynodeb rhyngweithiol newydd o’n Hadroddiad a’n Cyfrifon Blynyddol [agorir mewn ffenest newydd]. Roeddem ni hefyd yn falch eithriadol o ennill gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Sector Cyfathrebu Cyhoeddus y DU. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’n hymgyrch “GWYCH gyda'n gilydd - newid diwylliant yn Swyddfa Archwilio Cymru”. Gallwch ddarllen fwy am “GWYCH gyda’n gilydd” yn ein Strategaeth Pobl.

    O fis Gorffennaf i fis Rhagfyr

    Ym mis Gorffennaf roeddem ni’n falch o groesawu Adrian Crompton i’w swydd newydd ar ôl iddo gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn fuan ar ôl hynny aethom i Sioe Frenhinol Cymru, a roddodd gyfle inni sgwrsio â’r cyhoedd ynglŷn â rhai o’r archwiliadau y byddwn yn eu cynnal cyn bo hir ac i rannu canlyniadau’r arolwg a gynhaliwyd gennym yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd.

    Hefyd ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad pwysig arall ynglŷn ag Iechyd, a oedd yn rhoi sylw i wasanaethau y tu allan i oriau. Er gwaethaf sylwadau cadarnhaol gan gleifion, fe wnaethom ni ddarganfod bod straen sylweddol ar y maes oherwydd problemau staffio ac ysbryd isel ymysg aelodau’r staff.

    Yna, ar ddiwedd mis Gorffennaf, cyhoeddwyd adroddiad gennym a oedd yn ystyried a yw WEFO yn ymdrin yn effeithiol â’r risgiau a’r cyfleoedd a fydd yn dod i ran y Cronfeydd Strwythurol oherwydd Brexit. Ddyddiau yn unig cyn cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai bellach yn gwarantu’r Cronfeydd Strwythurol sy’n cael eu dyrannu i Gymru (ac i’r DU) o dan gyllideb bresennol yr UE hyd at 2020.

    Ym mis Hydref cynhaliodd y Grŵp Datblygu Sgiliau Ariannol y drydedd gynhadledd ar gyfer pobl sy’n cael eu hyfforddi ym maes cyllid, sef Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2018, ac roeddem ni’n falch o fod yn rhan o hyn. Daeth y digwyddiad â phobl ynghyd a oedd yn gweithio mewn cyrff a gynhelir drwy arian cyhoeddus o bob rhan o Gymru, ac sy’n astudio am gymhwyster yn ymwneud â chyllid.

    Yna, ar ddiwedd mis Hydref, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad ynglŷn â rheoli apwyntiadau dilynol i gleifion yng Nghymru. Roedd yr adroddiad ar ddiwyg newydd, nid annhebyg i gylchgrawn, ac fe wnaethom ni gyhoeddi animeiddiad [agorir mewn ffenest newydd] byr hefyd i gyd-fynd â’n canfyddiadau.

    Ym mis Tachwedd roeddem ni’n falch o weld Huw Vaughan Thomas, ein cyn-Archwilydd Cyffredinol, yn derbyn CBE am wasanaethau i archwilio ac atebolrwydd cyhoeddus yng Nghymru.

    Braslun o'r flwyddyn

    Wrth inni fwrw golwg dros 2018, rydym ni’n falch o bopeth yr ydym ni wedi ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o wneud i arian cyhoeddus gyfrif.