Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Trefniadau Archwilio ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru yn y Dyfodol

09 Tachwedd 2020
  • Adroddiad newydd

    Ym mis Ionawr 2020, ymgynghorwyd ar y newidiadau arfaethedig i'r trefniadau archwilio ar gyfer cynghorau cymuned a thref. Gwnaed y cynigion i fynd i'r afael â materion systemig ar draws y sector.

    Cawsom 136 o ymatebion gan gynghorau, clercod, aelodau unigol, archwilwyr mewnol ac aelodau o'r cyhoedd. Rydym wedi adolygu'r ymatebion ac wedi ystyried yn ofalus y materion a'r arsylwadau a wnaed gan ymatebwyr.

    Y camau nesaf

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi manylion y broses archwilio ar gyfer archwilio cyfrifon 2020-21 ac yn y dyfodol.

    Bydd cynghorau cymuned a thref yn destun trefniadau archwilio yn seiliedig ar gylch tair blynedd. Mewn dwy o'r tair blynedd, bydd y trefniadau archwilio fwy neu fwy neu lai'r un fath â'r rhai sydd ar waith hyd at a chan gynnwys 2019-20. Bydd archwilwyr mewn un flwyddyn o'r cylch tair blynedd yn cynnal archwiliad manylach sy'n edrych ar drafodion unigol.

    Mae'r dull hwn yn cydbwyso'r risg i archwilio cynghorau cymuned a thref, y risg gyffredinol i bwrs y wlad, a chost yr archwiliad.

    Darganfyddwch fwy

    Byddwn yn cynnal gweminar ym mis Tachwedd 2020 gan roi mwy o fanylion i gynghorau am sut y bydd y trefniadau newydd yn gweithio'n ymarferol.

    Cofrestrwch i fynychu'r gweminar [agorir mewn ffenestr newydd].

     

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Trefniadau Archwilio ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru yn y Dyfodol

    Gweld mwy