Swyddfa Archwilio Cymru yn cipio gwobr o bwys am arloesedd gyda sefydliadau sy'n bartneriaid

09 Tachwedd 2020
  • Rydyn ni wedi cael ein cydnabod am arloesedd mewn dysgu a datblygiad yn seremoni agoriadol Gwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus. 

    0 "News"
    

    Derbynion ni’r wobr mewn seremoni fawreddog ar 20 Ebrill - ynghyd â’n partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y GIG a Llywodraeth Cymru.

    Cyflwynwyd Gwobr Arloesedd Cyllid Cyhoeddus i aelodau'r Grŵp Sgiliau a Datblygu Cyllid. Mae'r cynllun hwn yn torri tir newydd, ac wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â chyrff sydd â chyllid cyhoeddus ar draws Cymru dan gadeiryddiaeth Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr yn Swyddfa Archwilio Cymru. Nod y prosiect Cymru gyfan yw hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gyrfa mewn cyllid cyhoeddus drwy ddarparu secondiadau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi rhwydweithiau hyfforddai a datblygu rhaglenni arweinwyr.

    Mae'r cynllun yn gweld Swyddfa Archwilio Cymru, mewn cydweithrediad agos â chydweithwyr yn GIG Cymru, llywodraeth leol, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir ganddi, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach - ynghyd â sefydliadau eraill sydd wedi eu lleoli yng Nghymru sy'n cael eu cyllido ag arian cyhoeddus, megis y DVLA a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Roedd y beirniaid yn canmol y cynllun, gan ddweud: "Mae'r model arloesol hwn o hyfforddiant a datblygiad mewn cyllid yn adlewyrchiad ardderchog o effaith ei gynghreiriau allanol a'i ddull cydweithredol o weithio. Menter wirioneddol wreiddiol, o'r gwaelod i fyny, dan arweiniad gwirfoddolwyr."

    Roedd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn agos i'r brig yng nghategori 'Cyflawniad mewn Adrodd am Faterion Ariannol ac Atebolrwydd' - sy'n cydnabod y ffordd newydd y mae'n cyflwyno ei Hadroddiad Blynyddol a'i Chyfrifon, ynghyd â'i Chynllun Blynyddol, Amcangyfrifon ac adroddiadau am y Cynllun Ffioedd.

    Meddai Anthony Barrett, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, heddiw:

    "Rwyf yn falch iawn fod gwaith caled Ann-Marie a chydweithwyr, o Swyddfa Archwilio Cymru a'r sefydliadau sy'n bartneriaid i ni hefyd, wedi cael ei gydnabod yn gyhoeddus. Maent yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol i wella'r hyfforddiant mewn rheolaeth ariannol sydd ar gael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid yn y wobr ei hun, fodd bynnag, y mae'r gwir lwyddiant ond yn y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud yn natblygiad sgiliau rheolaeth ariannol yng Nghymru."

    Meddai Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol, heddiw:

    " Mae hyn yn enghraifft wych o gydweithredu ar ei orau yn y sector cyhoeddus ac ni fedrwn fod yn fwy balch o bawb. Allai'r fenter hon ddim bod wedi digwydd heb gefnogaeth hael Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u bod yn cydnabod y gwerth y mae'r cynllun hyfforddi hwn yn ei ddwyn i Gymru.