Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Bu’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau ar Reoli Adeiladau a ddenodd gynrychiolwyr o hyd a lled Cymru - gweler rhai o allbynnau’r diwrnod.
Yn Rhagfyr ac Ionawr, bu’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ar Reoli Adeiladau. Roedd y rhain yn rhan o gyfres o seminarau ar Reoli Asedau, mewn cydweithrediad â’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol.
Daeth cynrychiolwyr i fynychu o hyd a lled Cymru ac o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys llywodraeth leol, iechyd, parciau cenedlaethol, addysg ac awdurdodau heddlu. Buont yn gwrando ar siaradwyr oedd yn herio’r meddwl ac yn rhannu eu profiadau eu hunain yn y gweithdai. Gadawodd y cynrychiolwyr gyda syniadau am sut i ddatblygu rheolaeth adeiladau o fewn eu sefydliadau eu hunain.
Yn y cyfamser, cymerwch olwg ar ein clipiau fideo [Agorir mewn ffenest newydd] o siaradwyr y seminar yn trafod eu prif negeseuon.