Rydym yn myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf ar bob peth sy’n ymwneud â COVID-19 a'r sector cyhoeddus

Ymunwch â ni ar gyfer ein hwythnos ddysgu COVID-19
Cynhelir ein digwyddiad dysgu ar-lein wythnos gyfan yr wythnos nesaf rhwng 8 a 12 Mawrth.
Dros y pum niwrnod byddwn yn rhannu nifer o adnoddau gan gynnwys cyfweliadau fideo gyda chydweithwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus, blogiau, podlediadau a nifer o ddigwyddiadau byw y gallwch gymryd rhan ynddynt.
Gweld y rhagflas i weld yr hyn sydd ar y gweill
Ein digwyddiadau byw
Ddydd Mawrth, 9 Mawrth gallwch hefyd ymuno â ni am sgwrs Twitter [agorir mewn ffenestr newydd] fyw wrth i ni drafod llywodraethu yn ystod cyfnod argyfwng.
Ymrestrwch ar gyfer ein gweminar fyw ar Strategaeth Dynamig lle bydd yr Athro Dave Snowden, Crëwr Fframwaith Cynefin, Anne-Louise Clarke, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid yn Archwilio Cymru, Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Todd Howlett, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yn Nova Scotia Health ac Auriol Miller, Prif Weithredwr y Sefydliad Materion Cymreig.
Cymerwch ran
Ewch i'n tudalen digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i ymrestru ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau a'r wybodaeth y byddwn yn ei rhannu yn ystod ein hwythnos ddysgu COVID-19.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.