Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect Newid, Uwch Gydlynydd Stiwdio, Uwch Archwilydd – Arbenigwr Perfformiad, Arbenigwr y Gyfraith a Moeseg (Swyddog Gwybodaeth) ac Archwilydd Dros Dro – Cyfrifon.
Uwch Gydlynydd Stiwdio
Ar hyn o bryd mae Archwilio Cymru yn recriwtio ar gyfer unigolyn hynod greadigol sydd â dawn i ddylunio gwych i ymuno â'n tîm cyfathrebu gwobredig!
A ydych yn chwilio'n barhaus am ddulliau newydd o wella'r modd y darperir gwasanaethau? Os felly, yna gallai ein swydd Uwch Gydlynydd Stiwdio fod ar eich cyfer chi!
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 09 Mai 2022.
Rheolwr Prosiect Newid
Rydym yn cyflogi ar gyfer Rheolwr Prosiect Newid i'n helpu i gyflawni newid sefydliadol yn fwy effeithiol a bydd y person llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Mai 2022.
Arbenigwr y Gyfraith a Moeseg (Swyddog Gwybodaeth)
Rydym yn recriwtio ar gyfer Arbenigwr Cyfraith a Moeseg i sicrhau bod Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflawni ein rhwymedigaethau fel rheolwyr data, gan gynnwys drwy ymdrin â cheisiadau gwrthrych am wybodaeth a helpu archwilwyr gyda gofynion diogelu data.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch hefyd yn gyfrifol am ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a chynnal y cynllun cyhoeddi.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Mai 2022.
Uwch Archwilydd (Perfformiad – Cymraeg hanfodol)
Rydym yn chwilio am Uwch Archwilydd (Perfformiad) i ymuno â'n tîm!
A ydych yn chwilio am ffordd o helpu i lunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru? A oes gennych sgiliau ymchwil gyda phrofiad o werthuso perfformiad gwasanaethau, llywodraethu ac atebolrwydd? Os felly, yna gallech fod yn bwy rydym yn chwilio amdano!
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gyfrifol am helpu i lunio a chyflwyno ystod o waith archwilio perfformio ar draws ein cleientiaid llywodraethu lleol yng Ngogledd Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Mai 2022.
Archwilydd Dros Dro – cyfrifon
Fel rhan o'n gwaith, rydym yn awyddus i gyflogi Archwilwyr Dros Dro cymwysedig CCAB i ddarparu cymorth tymor byr, ad hoc wrth gynnal ein harchwiliadau cyfrifon.
Pam Archwilio Cymru?
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyliog a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Mae gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn hollbwysig inni.
Rydym yn gyflogwr balch o ran Teuluoedd sy'n Gweithio ac yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae ein lwfans gwyliau blynyddol hael, ein polisïau gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd a hyblyg yn rhai o'r rhesymau pam ein bod yn lle gwych i weithio ynddo.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Am ragor o fanylion ac i wneud cais
Eisiau gwybod mwy am unrhyw un o'r tri chyfle cyffrous hyn? Cymerwch olwg ar ein tudalen swyddi gwag [agorir mewn ffenestr newydd].