Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Risg bod datrysiadau llety dros dro byrdymor yn dod yn argyfwng hirdymor i arian cyhoeddus ac i bobl sy’n profi digartrefedd

14 Gorffennaf 2025
  • Mae cynghorau’n ymdrin â heriau wrth iddynt godi, yn canolbwyntio ar reoli’r galw yn hytrach nag ar atal a chyflawni gwerth am arian

    Ceir dulliau y gallai cynghorau eu defnyddio i wella’r sefyllfa bresennol.

    Mae’r galw am lety dros dro wedi cynyddu bron i bum gwaith drosodd yn y degawd diwethaf. Mae heriau ariannol, ar y cyd â’r cynnydd yn y galw am lety dros dro yn y blynyddoedd diwethaf, yn golygu bod cynghorau’n ymdrin â heriau wrth iddynt godi, gan ganolbwyntio ar reoli’r galw.

    Mae lefelau uchel o ran y galw a chostau cynyddol yn golygu bod cynghorau’n gwario symiau sylweddol o arian yn darparu llety, ond yn aml nid yw’r llety hwn yn diwallu anghenion hirdymor pobl. Mae rhoi’r cymorth iawn ac atal yr angen am lety dros dro’n bwysig nid dim ond i gefnogi llesiant pobl, ond i gynaliadwyedd ariannol cynghorau yn y dyfodol hefyd.

    Canfu ein hadroddiad nad yw cynghorau wedi gwneud rhyw lawer o gynnydd o ran gwella’r modd y maent yn atal digartrefedd ac o ran lleihau’r galw am lety dros dro. Nid yw cynghorau a’u partneriaid yn defnyddio’r ystod lawn o ddulliau ataliol sy’n golygu bod risg eu bod yn colli cyfleoedd i atal yr angen am lety dros dro.

    Canfu ein hadroddiad hefyd nad yw cynghorau’n asesu gwerth am arian eu darpariaeth gyfredol o ran llety dros dro. Hyd yn oed gyda ffocws ar atal, mae’n debygol y bydd wastad angen i gynghorau gynnig rhywfaint o lety dros dro i bobl sy’n profi digartrefedd. Mae sicrhau eu bod yn deall y deilliannau y maent yn eu cyflawni am yr arian a gaiff ei wario’n hollbwysig i gefnogi pobl yn effeithiol a lleihau’r risg i gynaliadwyedd ariannol cynghorau.

    Mae ein hadroddiad yn egluro cost llety dros dro a’r codiadau yn y galw amdano, yn ogystal ag adnabod cyfleoedd i wella gwerth am arian y dulliau a ddefnyddir gan gynghorau. Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion sydd wedi’u bwriadu i wella'r modd yr eir ati i atal lety dros dro, a gwella ei werth am arian.

     Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys:

     • diffinio a gwerthuso gwerth am arian;

     • cryfhau cynllunio ar gyfer atal digartrefedd trwy ddefnyddio data’n well; a

    • gwella trefniadau gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gwaith atal.

    ,
    Ar hyn o bryd mae cynghorau’n ymdrin â heriau wrth iddynt godi, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â chostau uchel a lefelau uchel o ran y galw. Rwy’n cydnabod bod gwneud y newid yn gallu bod yn gryn her, ond mae angen i gynghorau ganolbwyntio’n fwy ar atal ac asesu gwerth am arian opsiynau llety dros dro. Ceir risg, os na fydd hyn yn digwydd, y bydd datrysiadau byrdymor yn dod yn argyfwng hirdymor i’r rhai sy’n profi digartrefedd ac i arian cyhoeddus. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Llety Dros Dro, argyfwng hirdymor?

    Gweld mwy