Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rhowch eich barn: mae'r ymgynghoriad ar amcanion cydraddoldeb arfaethedig Archwilio Cymru ar gyfer 2026-2030 bellach yn fyw

08 Rhagfyr 2025
  • Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ar ein hamcanion cydraddoldeb drafft ar gyfer y cyfnod 2026-2030.

    Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol  yn nodi'r pethau allweddol yr oeddem yn bwriadu eu gwneud dros y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2026 i helpu i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda yng Nghymru.

    Rydym wedi gwneud cynnydd da wrth gyflawni'r rhaglen waith honno. Mae'r cynnydd a wnaed wedi'i adrodd bob blwyddyn yn ein hadroddiadau cydraddoldeb blynyddol Adroddiad Cydraddoldeb 2024-25.

    Er ein bod yn fodlon â'r cynnydd rydym wedi'i wneud, rydym yn cydnabod bod lle i ni wella o hyd. Fel y cyfryw, rydym wedi datblygu cyfres ddiwygiedig o amcanion cydraddoldeb y credwn y dylai fod yn sail i'n gwaith ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rydym hefyd wedi crynhoi'r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn dros y pedair blynedd nesaf.

    Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn adolygu'r holl ymatebion, gyda mewnbwn gan Pawb (ein grŵp diddordeb cydraddoldeb staff), a'u hystyried wrth baratoi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf i'w gyhoeddi yn y Gwanwyn yn 2026.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Ymgynghoriad ar amcanion cydraddoldeb arfaethedig Archwilio Cymru ar gyfer 2026-2030

    Gweld mwy