Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fodd bynnag, mae effaith yr ymarfer yn dibynnu’n fawr ar barodrwydd sefydliadau sy’n cyfranogi i fuddsoddi amser ac ymdrech i asesu ac adolygu pariadau data’n effeithiol.
Ymarfer atal twyll ledled y DU a gynhelir bob dwy flynedd yw’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI), sy’n helpu i atal a chanfod twyll trwy rannu a pharu setiau o ddata yn electronig. Ar gyfer Cymru, cymerodd 49 o sefydliadau ran yn yr ymarfer diweddaraf.
Mae’r deilliannau i Gymru o Fenter Twyll Genedlaethol 2022-23 £0.6 miliwn yn fwy nag yn 2020-21, sydd i’w briodoli’n bennaf i gynnydd yn nifer yr hawliadau twyllodrus neu wallus am fudd-dal tai a disgownt person sengl y dreth gyngor. Fodd bynnag, mae gostyngiadau mewn meysydd eraill, megis gostyngiad yn y bathodynnau glas a gafodd eu canslo, yn gwrthbwyso’r codiadau hyn yn rhannol.
O’r £7.1 miliwn o ddeilliannau yr adroddwyd arnynt, mae 97% o bariadau data awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â’r dreth gyngor, budd-dal tai, bathodynnau glas, rhestrau aros ar gyfer tai, a phensiynau.
Mae llwyddiant y Fenter Twyll Genedlaethol yn dibynnu ar ba mor dda y mae cyrff sy’n cyfranogi’n asesu ac yn adolygu pariadau data, ac yna’n cofnodi’r deilliannau. Mae rhai cyrff yn gwneud gwaith da ar hyn, ond mae ein hadolygiad ni o adroddiadau paru data’n amlygu anghysonderau mewn trefniadau dilynol lleol a rhai amrywiadau mawr mewn deilliannau rhwng cyfranogwyr tebyg.
Yn ogystal ag adnabod, adfer ac atal colled ariannol, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn dwyn manteision ansoddol ehangach. Gall ddarparu sicrwydd ynghylch, ac adnabod cyfleoedd i wella, effeithiolrwydd prosesau a gweithdrefnau ariannol a gweinyddol eraill.
Er na fydd yr holl gyfranogwyr yn gweld deilliannau cadarnhaol sylweddol eu hunain o anghenraid, un o fanteision allweddol ymarfer paru data ledled y DU gyfan yw ei fod yn ei gwneud yn bosibl paru data rhwng cyrff ac ar draws ffiniau gwledydd. Fe wnaeth data a ddarparwyd gan gyfranogwyr yng Nghymru ar gyfer Menter Twyll Genedlaethol 2022-23 helpu cyrff cyhoeddus y tu allan i Gymru i adnabod deilliannau gwerth £0.2 miliwn. Yn yr un modd, mae data gan gyfranogwyr eraill yn y DU wedi helpu i adnabod deilliannau yng Nghymru.
Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i godi proffil a chynyddu cwmpas a sylw’r Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i waith dadansoddeg twyll.
Rwyf wedi dweud yn flaenorol, er bod y drafodaeth am gyllid cyhoeddus yn aml yn canolbwyntio ar doriadau i wariant a/neu godi trethi, nad oes rhyw lawer yn cael ei ddweud am dwyll a gwall. Eto mae’n dal i fod yn falltod ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gwireddu manteision y Fenter Twyll Genedlaethol yn dibynnu ar barodrwydd cyrff sy’n cyfranogi i fuddsoddi amser ac ymdrech i asesu ac adolygu pariadau data’n effeithiol. Mae meintioli’r effaith ar y cyfan hefyd yn dibynnu ar waith gan gyrff i gofnodi eu deilliannau. Er bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn dangos ymrwymiad cryf i'r Fenter Twyll Genedlaethol, rwy’n dal i bryderu nad felly y mae hi bob amser. Wrth i gylch nesaf y Fenter Twyll Genedlaethol gael ei gyflwyno, bydd staff Archwilio Cymru’n cynyddu eu hymgysylltiad â chyrff sy’n cyfranogi i godi ymwybyddiaeth, hybu cyfranogiad gweithredol, a deall yn well sut y mae cyrff yn asesu ac yn adolygu pariadau.