Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ar 26 Ionawr, ymunodd ein Harchwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, â Chyfarwyddwr Sector Cyhoeddus y DU ICAEW, Alison Ring OBE FCA, ar gyfer gweminar a gynhaliwyd gan ICAEW ynghylch sut y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol chwarae rhan yn y gwaith o wella llywodraethu yn y sector cyhoeddus.
Dechreuodd y weminar gyda chyflwyniad byr gan Adrian ac fe'i dilynwyd gan sesiwn holi ac ateb rhwng Adrian ac Alison.
Siaradodd Adrian am:
Swyddogaeth Archwilio Cymru
Yn ei sylwadau agoriadol, soniodd Adrian yn gyntaf am ei swyddogaeth ef a swyddogaeth Archwilio Cymru, ac am yr hyn yr ydym yn canolbwyntio arnynt, a nodir yn ein Cynllun Blynyddol 2020-21 [yn agor mewn ffenest newydd] sef:
Heriau Cyfredol
Aeth Adrian ymlaen i siarad am yr heriau presennol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus, ac nid yw’n syndod bod pandemig Covid 19 ar frig y rhestr honno. Soniodd am yr ymdrech aruthrol ar y cyd rhwng timau archwilio a chyrff archwiliedig a arweiniodd at gymeradwyo'r mwyafrif helaeth o gyfrifon 2019-20 yn unol ag amserlen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru.
O ran Gwerth am Arian, soniodd Adrian am yr angen i newid canolbwynt a phwyslais ein gwaith er mwyn osgoi effeithio ar ddarpariaeth rheng flaen ac edrych ar faterion sy'n codi o'r pandemig. Yn benodol, soniodd am ein Gwaith Dysgu Covid [yn agor mewn ffenest newydd] a’r arferion da yr ydym wedi’i weld, a'r gwersi a nodwyd, drwy'r gwaith hwnnw. Soniodd hefyd am ein gwaith yn edrych ar Gaffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 [yn agor mewn ffenest newydd] a’r adroddiad Ei Wneud yn Wahanol, Ei Wneud yn Iawn [yn agor mewn ffenest newydd] a gyhoeddwyd yn ddiweddar a oedd yn edrych ar lywodraethu yn y GIG yn ystod argyfwng COVID-19.
Siaradodd Adrian hefyd am heriau eraill sy'n wynebu'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd gan gynnwys Brexit, yr argyfwng hinsawdd, gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, yr heriau economaidd-gymdeithasol uniongyrchol sy'n ein hwynebu yng Nghymru ac ymateb i'r cyfleoedd a'r bygythiadau sy’n cael eu hachosi yn sgil datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth. Mae ein hymateb i'r materion hyn a materion eraill wedi’u nodi yn ein Cynllun Blynyddol 2020-21[yn agor mewn ffenest newydd].
Sut y gall Archwilio Cymru Gefnogi Cyfarwyddwyr Anweithredol
Yna trodd Adrian at ffyrdd y gall Archwilio Cymru gefnogi Cyfarwyddwyr Anweithredol. Roedd y rhain yn cynnwys:
Swyddogaeth y Cyfarwyddwyr Anweithredol
Wrth gloi, soniodd Adrian am swyddogaeth Cyfarwyddwyr Anweithredol, y cyfleoedd eang i gymryd rhan ym maes Cyfarwyddwyr Anweithredol a swyddogaethau tebyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a sut y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol gefnogi llywodraethu effeithiol.
Tynnodd Adrian sylw at y swyddogaeth hanfodol y mae Cyfarwyddwyr Anweithredol cryf a galluog yn ei chwarae wrth gefnogi cyrff cyhoeddus sy'n perfformio'n dda a nododd y gellir olrhain llawer o'r gwendidau y mae wedi'u gweld o ran rheoli arian cyhoeddus yn ôl i wendidau yng ngwaith llywodraethu a goruchwylio’r Bwrdd.
Yna, crynhodd nifer o nodweddion y mae wedi'u gweld mewn Cyfarwyddwyr Anweithredol effeithiol, gan gynnwys:
Gan dynnu ar brofiad o’i yrfa gyfan, daeth Adrian i'r casgliad bod llywodraethu da yn seiliedig ar egwyddor, yn hytrach na chydymffurfiaeth. Mae gweld Cyfarwyddwyr Anweithredol ac eraill mewn swyddi arwain yn arddangos ymddygiadau cywir yn bersonol yn bwysicach o lawer na phroses a phensaernïaeth sefydliadol wrth gefnogi diwylliant llywodraethu iach.
Gellir cael gafael ar recordiad o'r weminar yn rhad ac am ddim yn: Pwysigrwydd llywodraethu da yn y sector cyhoeddus [yn agor mewn ffenest newydd].
Er mwyn gweld y weminar efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gyda’r ICAEW.