Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Pob Awdurdod Iechyd yn torri’r ddyletswydd i fantoli’r gyllideb wrth i bwysau ariannol waethygu

29 Awst 2024
  • Mae’r archwiliad o gyfrifon 2023-24 cyrff y GIG wedi’i gwblhau. Mae ein hofferyn data yn darparu gwybodaeth bellach am eu sefyllfa ariannol bresennol

    Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad bod y 12 o gyfrifon a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan gyrff y GIG yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y cyrff hynny. Fodd bynnag, methodd pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru â chyflawni eu dyletswydd statudol i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. O ganlyniad, amododd yr Archwilydd Cyffredinol ei farn archwilio ar ‘reoleidd-dra’ ar gyfer y cyrff hynny. Cyflawnodd tair ymddiriedolaeth y GIG a dau awdurdod iechyd arbennig eu dyletswydd i fantoli’r gyllideb.

    Amododd yr Archwilydd Cyffredinol ei farn ar ‘reoleidd-dra’ hefyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre am dorri eu cyfarwyddiadau ariannol sefydlog. Aeth y ddau gorff GIG i wariant afreolaidd wrth wneud taliadau i gyn-aelodau gweithredol interim o’r Bwrdd a chyn-uwch swyddog o’r Ymddiriedolaeth yn y drefn honno. O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dyma’r ail flwyddyn yn olynol y torrwyd cyfarwyddiadau ariannol sefydlog yn ymwneud â thaliadau i aelodau gweithredol.

    Derbyniodd gwasanaethau iechyd yng Nghymru £10.638 biliwn o gyllid refeniw yn 2023-24, cynnydd o £744 miliwn mewn arian parod. Roedd hyn yn sylweddol uwch na’r cynnydd o £131 miliwn yn 2022-23. Gydag effaith cynnydd mewn chwyddiant, roedd y cynnydd mewn arian parod yn 2023-24 yn cyfateb i gynnydd o 1.2% mewn cyllid mewn termau real (o gymharu â gostyngiad o 4.9% mewn termau real yn 2022-23). Yn erbyn cefndir o alw sylweddol, mae cyfanswm y diffyg yn y flwyddyn ar gyfer 2023-24 wedi cynyddu i £183 miliwn (£150 miliwn yn 2022-23) a chynyddodd y gorwariant cronnol dros dair blynedd ar draws y GIG o £248 miliwn yn 2022-23 i £385 miliwn yn 2023-24.

    Mae’r gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu’n raddol o 2018-19 i 2022-23 ond gostyngodd 19% mewn termau arian parod yn 2023-24 gyda gwariant cyffredinol blynyddol o £262 miliwn ar staff asiantaeth ar draws GIG Cymru. Er bod y mwyafrif o’r gwariant hwn yn cwmpasu swyddi gwag y gweithlu, mae rhywfaint hefyd yn cefnogi gweithgarwch ychwanegol i helpu i fodloni’r galw.

    Mae cyrff y GIG yn gorfod cyflawni arbedion sylweddol yn eu hymgais i reoli costau. Cynyddodd yr arbedion a adroddwyd unwaith eto yn 2023-24, gan barhau â’r duedd a welwyd yn 2022-23. Mae’r arbedion hynny ar eu lefel uchaf ers 2018-19, sef £210 miliwn. Mae’r GIG yn dal i ddibynnu’n helaeth ar arbedion afreolaidd untro gyda 41% o gyfanswm yr arbedion a adroddwyd yn 2023-24 yn disgyn i’r categori hwn. Yn gadarnhaol, mae’r ganran hon wedi gostwng o 60% yn 2022-23.

    Mae cynllunio strategol cadarn yn allweddol os ydym am weld y GIG yn darparu gwasanaethau sy’n gynaliadwy, yn glinigol ac yn ariannol. Fodd bynnag, ni lwyddodd yr un o’r byrddau iechyd i gael cymeradwyaeth ar gyfer cynllun tymor canolig integredig tair blynedd ar gyfer 2023-26 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg. Cafodd cynlluniau tymor canolig a baratowyd gan y tair Ymddiriedolaeth GIG a dau awdurdod iechyd arbennig eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Cabinet ond, yn gyffredinol, mae’n profi’n fwyfwy anodd i gyrff y GIG lunio cynlluniau ariannol gytbwys yn yr hinsawdd sydd ohoni o ran y pwysau ar gostau a’r galw am wasanaethau.

    Nodir manylion pellach yn Offeryn Data Cyllid GIG Cymru 2023-24 a gyhoeddwyd heddiw.

    ,
    Er fy mod i’n cydnabod maint yr heriau ariannol a gweithredol y mae’r GIG yn eu hwynebu, rwy’n pryderu unwaith eto fy mod yn gorfod amodi fy marn archwilio ar gyfrifon pob un o’r saith Bwrdd Iechyd am eu bod wedi methu â chyflawni’r ddyletswydd statudol i fantoli’r gyllideb dros dair blynedd. Mae’r diffyg cronnol cynyddol ar gyfer y GIG yng Nghymru yn dangos, er gwaethaf y lefelau buddsoddi a’r lefelau arbedion mwyaf erioed, nad yw’r fframwaith statudol a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i ysgogi cynaliadwyedd ariannol yn y GIG yn gweithio. Er bod angen dybryd o hyd i gyrff y GIG barhau i fynd i’r afael ag aneffeithlonrwydd o ran costau yn y ffordd maent yn gweithio, nid yw hyn ar ei ben ei hun yn debygol o sicrhau bod y GIG yn mantoli’r gyllideb unwaith eto. Mae angen mynd i’r afael â heriau mwy sylfaenol nawr o ran siâp a seilwaith y GIG, lefel y cyllid sydd ei angen arno, yr heriau y mae’n eu hwynebu o ran y gweithlu a sut y gellir rheoli’r galw am ei wasanaethau yn well. Mae’r rhain yn faterion y dylai gwleidyddion, swyddogion y llywodraeth a chyrff y GIG a’u partneriaid fod yn eu hystyried llawn cymaint â’i gilydd. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol