Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi galw am weledigaeth feiddgar ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru os yw am ddianc o duedd droellog o ymdrin â heriau wrth iddynt godi gan feddwl am y byrdymor i ddiogelu at y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor.
Yng nghyd-destun cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi themâu allweddol y mae gwaith Archwilio Cymru yn awgrymu a fyddai'n helpu'r llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus i sicrhau mwy o werth o'r arian y maent eisoes yn ei wario, gan gynnwys:
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn dyrannu £26.4 biliwn, i fyny o £25.2 biliwn yn 2023-24.
Mewn termau real, mae cyllid refeniw o ddydd i ddydd 0.4% yn uwch na'r flwyddyn ariannol hon. Mae'r gyllideb cyfalaf 1.7% yn uwch. Y GIG yw'r maes gwariant unigol mwyaf, gan roi cyfrif am fwy na hanner cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru.
Mae'r gyllideb yn dilyn cyfnod lle mae chwyddiant uchel wedi erydu gallu Llywodraeth Cymru i wario a bu pwysau cynyddol ar wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys galw cronedig yn deillio o'r pandemig ac anghydraddoldeb cynyddol.
Mae'r pwysau hyn yn cael eu teimlo ar draws y sector cyhoeddus, gyda chynaliadwyedd hirdymor a fforddiadwyedd gwasanaethau ac ymrwymiadau polisi cyfredol yn cael eu profi.
Dywedodd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae mynd i'r afael â materion hirdymor megis anghydraddoldeb, newid demograffig a sero net yn her anferthol pan fo cyllid yn brin. Ond mae'n rhaid ei wneud os yw gwasanaethau cyhoeddus am ddianc o duedd droellog i ymdrin â heriau wrth iddynt godi gan feddwl am y byrdymor.
“Mae ein gwaith yn nodi dro ar ôl tro themâu a all, os eir i'r afael â nhw, helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gael mwy o werth o'r £26 biliwn a mwy y maent yn ei wario, ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd sydd ei hangen i fod yn sail i newid cynaliadwy hirdymor.”
Mae ein gwaith yn nodi dro ar ôl tro themâu a all, os eir i'r afael â nhw, helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gael mwy o werth o'r £26 biliwn a mwy y maent yn ei wario, ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd sydd ei hangen i fod yn sail i newid cynaliadwy hirdymor.