Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu mesurau effeithiol i wella trefniadau ei Gwasanaeth Cynllunio

14 Tachwedd 2024
  • Mewn ymateb i'n Hadolygiad 2023 o ganfyddiadau'r Gwasanaeth Cynllunio, mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Sir Powys wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd.

    Mae'r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Sir Powys wedi gweithredu holl argymhellion 2023 yn llawn. 

    Canolbwyntiodd yr adolygiad hwn ar ymateb y Gwasanaeth Cynllunio i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodir yn ein hadroddiad ar gyfer 2023. Nid oedd yr adolygiad hwn yn edrych ar berfformiad y Gwasanaeth Cynllunio na rhinweddau neu benderfyniadau ceisiadau cynllunio unigol.  

    Ar y cyfan, gwelsom fod y Gwasanaeth Cynllunio wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym i gyflawni newidiadau effeithiol ac o ganlyniad nid oes unrhyw argymhellion pellach wedi'u gwneud. 

    ,
    Rydym yn cydnabod ymdrech ac ymrwymiad tîm y Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Sir Powys i ymdrechu i wella'n barhaus mewn ymateb i'n hadolygiad. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Sir Powys – Adolygiad Dilynol o'r Gwasanaeth Cynllunio

    Gweld mwy