Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Dros y blynyddoedd diwethaf mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi wynebu pwysau sylweddol, gan ymdrin ag un argyfwng ar ôl y llall, ond gyda llai o adnoddau ar gael yn awr mae arnynt angen i gymunedau a phobl wneud mwy drostynt hwy eu hunain
Mae gan awdurdodau lleol hanes cadarnhaol o addasu’n dda wrth ymateb i heriau. Pa un a oedd yn ymwneud â thoriadau i gyllidebau o ganlyniad i gyni ynteu â dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw gwasanaethau ar agor yn ystod y pandemig, mae awdurdodau lleol wedi bod yn dyfeisio, ac yn gweithredu, ystod o fesurau effeithlonrwydd i leihau cost gwasanaethau, ond maent hefyd wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio.
Fodd bynnag, oherwydd yr argyfwng costau byw cyfredol, mae awdurdodau lleol bellach yn wynebu eu her fwyaf. Er bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu cynyddu cyllidebau cynghorau ar gyfer 2023-24, mae lefel yr arian a fydd ar gael yn llai na’r hyn y mae ei angen i gynnal gwasanaethau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n amcangyfrif y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol reoli £1.2 biliwn o bwysau o ran costau heb eu cyllido rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025.
O ganlyniad, mae awdurdodau lleol yn dangos diddordeb cynyddol mewn hybu a thyfu cydnerthedd cymunedol; gan arfogi pobl i wneud mwy drostynt hwy eu hunain a bod yn llai dibynnol ar y wladwriaeth. Mae cydnerthedd cymunedol a hunangydnerthedd wedi dechrau ymddangos fel blaenoriaeth yng nghynlluniau corfforaethol a dogfennau strategaeth mwy o awdurdodau lleol, fel modd i arfogi pobl i allu addasu a rheoli’r problemau a wynebir ganddynt mewn modd uniongyrchol.
Er ei bod hi’n amlwg bod gan awdurdodau lleol hanes cryf mewn rhai meysydd allweddol a all helpu i greu unigolion mwy hunanddibynnol a chymunedau mwy cydnerth, canfuom nad yw awdurdodau lleol yn defnyddio adnoddau i hybu cydnerthedd cymunedol mewn modd effeithiol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid yw hyn yn syndod; gyda dyfodol ansicr, nid yw symud adnoddau o wasanaethau sy’n aml dan bwysau yn hawdd o gwbl. Ond oni bai bod awdurdodau lleol yn annog pobl i wneud mwy drostynt hwy eu hunain a dod o hyd i’w datrysiadau eu hunain, mae gwasanaethau’n debygol o fod yn anghynaliadwy.
Yn gadarnhaol, o ganlyniad i COVID-19, ceir peth wmbredd o ewyllys da ac ymrwymiad mewn cymunedau y gall awdurdodau lleol adeiladu arnynt a’u defnyddio. I wneud hyn, mae angen i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt y trefniadau a’r systemau cywir i gryfhau cydnerthedd cymunedol a chynorthwyo pobl i fod yn fwy hunanddibynnol. I helpu a chefnogi’r ffordd newydd hon o weithio, rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn defnyddio ein hadroddiad i hunanwerthuso ymgysylltiad, trefniadau rheoli, perfformiad ac ymarfer cyfredol i adnabod ble y mae angen gwella. O ganlyniad i gwblhau ein hofferyn gwerthuso, bydd awdurdodau lleol yn gallu drafftio a chyflawni cynllun gweithredu i flaenoriaethu ble y mae angen newidiadau.
Dangosodd y pandemig y gall cymunedau fod â rôl fwy gweithredol a dod yn llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus ond er mwyn cynnal hyn mae angen i awdurdodau lleol newid y ffordd y maent yn gweithio. Rwy’n cydnabod pa mor anodd yw hyn yn yr hinsawdd bresennol ond rwyf hefyd yn credu bod newid yn angenrheidiol. Mae ein hadroddiad yn cyfleu’r achos dros newid ac yn darparu argymhellion i helpu awdurdodau i wneud y trawsnewidiad.