Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei farn
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei farn a'i adroddiad ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.
Mae wedi rhoi amod ar ei farn wir a theg ar ased benthyciadau i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru oherwydd na all benderfynu a yw'r amcangyfrif gwerth teg ar 31 Mawrth 2025 yn rhesymol.
Asedau net Grŵp Llywodraeth Cymru a adroddwyd ar 31 Mawrth 2025 oedd £37.7 biliwn. Wedi'i gynnwys yn y balans hwn mae ased benthyciadau i fyfyrwyr o £8.9 biliwn, h.y. gwerth y benthyciadau i fyfyrwyr yr amcangyfrifir eu bod i’w had-dalu.
Mae cyfrifo'r ffigur hwn yn cynnwys modelu cymhleth. Mae Llywodraeth Cymru wedi addasu ffeiliau modelu a ddarparwyd rai blynyddoedd yn ôl gan yr Adran Addysg (DfE).
Nododd yr Archwilydd Cyffredinol bryderon ynghylch digonolrwydd y model hwn sydd bellach yn heneiddio wrth gynhyrchu amcangyfrif rhesymol. Y bwriad oedd i Lywodraeth Cymru sy'n gweithio gyda'r Adran Addysg o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth y 4 Gwlad drosglwyddo i fodel mwy diweddar yn 2024-25, ond daeth Llywodraeth Cymru i'r casgliad na ellid ei brofi a sicrhau’r ansawdd yn ei gylch mewn pryd i gynnwys allbynnau yn natganiadau ariannol 2024-25. Felly, defnyddiodd Llywodraeth Cymru yr unig fodel a oedd ar gael ar y pryd i gynhyrchu'r datganiadau ariannol drafft.
Amlygodd ei adroddiad yn 2021 ar Gyllid Myfyrwyr i Lywodraeth Cymru amcangyfrif yn 2015-16 y byddai'n adennill 81c am bob £1 sy'n ddyledus drwy fenthyciadau i fyfyrwyr. Erbyn 2019-20 roedd yr amcangyfrif hwnnw wedi gostwng i 65c. Ar hyn o bryd mae ad-daliadau gwirioneddol tua 50% o'r rhai a ragwelir ar hyn o bryd o dan y model presennol. Felly, mae'n debygol y bydd y model newydd yn arwain at werth asedau benthyciadau i fyfyrwyr sylweddol is yn 2025-26 a allai fod â goblygiadau i bolisi o ran cyllid i fyfyrwyr yn y dyfodol.
Hyd yn hyn mae Trysorlys EF wedi ariannu'r cynlluniau o ran benthyciadau i fyfyrwyr yn llawn ar y sail bod costau'n debyg ar draws y pedair cenedl.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mabwysiadu'r model newydd yn 2025-26.