Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae angen i gynghorau wneud mwy i wneud yn siŵr eu bod yn gallu sicrhau’r manteision gorau am eu harian, wrth iddynt geisio datgloi cyfleoedd digidol

15 Awst 2024
  • Mae technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd enfawr, ond mae hefyd yn cynnwys risgiau gwerth am arian sylweddol

    Wrth i gynghorau geisio trawsnewid eu gwasanaethau ac wrth i dechnoleg barhau i newid, rydym yn debygol o weld cynnydd cyflym yn y defnydd o atebion digidol.

    Gallai cyfleoedd gwmpasu ehangder gwasanaethau'r cyngor, p'un a yw'n canolbwyntio ar wella cyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau, cynyddu effeithlonrwydd neu wella mynediad at wasanaethau. Ond a yw cynghorau mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a sicrhau gwerth am arian yn y broses?

    Gwnaethom gynnal adolygiad o'r dulliau strategol o ymdrin â digidol ym mhob un o'r 22 prif gyngor yng Nghymru. Ar y cyfan, er bod llawer o gynghorau yn cydnabod y rôl y gall digidol ei chwarae wrth gyflawni eu huchelgeisiau tymor hwy, mae gwendidau yn eu dulliau gweithredu yn peri risgiau gwerth am arian.

    Gwelsom nad oedd cynghorau'n aml yn glir ynghylch sut yr oeddent yn mynd i ariannu eu huchelgeisiau. Gwelsom wendidau wrth fonitro effaith a gwerth am arian prosiectau digidol. Gallent hefyd wneud mwy i gynnwys dinasyddion a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu i gyflawni eu hamcanion hirdymor.  

    Fe ddaethom o hyd i rai enghreifftiau o arfer da er mwyn i gynghorau eu nodi.

    • Mae Cyngor Powys o'r farn bod digidol yn ganolog ar gyfer sbarduno gwelliant trawsnewidiol i'r holl wasanaethau. Cefnogir strategaeth ddigidol y Cyngor gan dri achos busnes sy'n nodi cyllid dros dair blynedd. Dyrannodd y ddau achos busnes cyntaf dros £5.2 miliwn ar gyfer 2019 i 2025 ac mae'r trydydd wedi sicrhau £3.9 miliwn ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Mae'r achosion busnes yn nodi'n glir y risgiau, yn ogystal â chamau lliniaru posibl. Drwy ddyrannu cyllid o'r fath i gefnogi'r strategaeth ddigidol ac asesu'r risgiau, mae'r Cyngor yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn cyflawni ei ganlyniadau arfaethedig.
    • Mae Strategaeth Ddigidol Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyd-fynd yn agos â strategaethau tymor hir allweddol, gan gynnwys ei gynllun corfforaethol, sy'n nodi ei fwriadau digidol mewn 5 mlynedd ac mewn 20 mlynedd, ei raglenni newid strategol a datgarboneiddio. Sefydlodd Fwrdd Trawsnewid Digidol i ysgogi blaenoriaethu gweithgareddau a sicrhau cysylltiadau â blaenoriaethau corfforaethol. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid y tu allan i'r sefydliad i gyflawni ei uchelgeisiau digidol.
    • Mae Cyngor Dinas Abertawe yn cynnal llawer o weithgareddau cydweithredol gwahanol gyda chynghorau eraill yn y rhanbarth, y sector preifat a'r trydydd sector i wella cysylltedd digidol, seilwaith digidol, cynhwysiant digidol a sgiliau digidol. Maent hefyd wedi ystyried sut y gall y strategaeth ddigidol gyfrannu at nodau llesiant cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan ddatblygu ffactorau llwyddiant yn seiliedig ar egwyddor datblygu cynaliadwy'r Ddeddf.

    Fe wnaethom nodi pum maes allweddol i'w gwella ar draws y 22 cyngor yn ymwneud â thystiolaeth, cydweithredu, adnoddau, effaith a dysgu. Bydd y gwersi hyn yn berthnasol i bob cyngor mewn ffyrdd gwahanol, felly rydym yn annog cynghorau i'w hystyried yng nghyd-destun eu hadroddiadau unigol.

    1. Gallent ddefnyddio sylfaen dystiolaeth ehangach i lywio dull hirdymor sy'n canolbwyntio ar y dinesydd o ymdrin â digidol.
    2. Gallent fynd ymhellach i weithio ar draws ffiniau mewnol a gyda phartneriaid allanol i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'u strategaethau digidol.
    3. Gallent wneud mwy i nodi'r manteision y gellid eu cyflawni, a'r adnoddau sydd eu hangen i'w helpu i droi uchelgais yn realiti.
    4. Mae angen iddynt sicrhau eu bod yn gallu asesu effaith eu strategaethau digidol a'u prosiectau unigol.
    5. Gallent gymryd agwedd fwy systematig tuag at ddysgu, fel y gallant addasu a gwella eu gwaith ar ddigidol.
    ,
    Fel yr amlygwyd yn fy adroddiad yn gynharach eleni, 'Ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol', nid ydym bob amser yn gweld tystiolaeth glir bod buddsoddi mewn systemau newydd yn elwa ar y manteision a fwriadwyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yn bwysig i gynghorau roi gwerth am arian, nawr ac yn y tymor hwy, wrth wraidd eu gwaith ar drawsnewid digidol. Bydd cynnwys dinasyddion a gweithio gydag eraill yn allweddol i hynny. Rwy'n eu hannog i ystyried y gwersi a'r enghreifftiau ymarfer a amlygwyd yn yr adroddiad wrth iddynt barhau i ddatblygu eu gwaith yn y maes hwn. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Digidol yn ôl dyluniad?

    View more