Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Er y bu gwelliannau mewn rhai meysydd, mae’r GIG un dal i brofi heriau gyda recriwtio a chadw, a dibyniaeth ar staff asiantaeth drud i lenwi bylchau yn y gweithlu
Mae cynnydd yn cael ei rwystro gan ddiffyg cynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu, bylchau yn y data ac ansicrwydd ynghylch siâp gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn darparu crynodeb o’n hadolygiadau o drefniadau cynllunio’r gweithlu yng nghyrff unigol y GIG. Mae hefyd yn nodi cyfleoedd i gryfhau gweithgarwch datblygu a chynllunio’r gweithlu ar lefel genedlaethol.
Mae’r adroddiad yn amlygu datblygiadau cadarnhaol mewn meysydd allweddol megis rheoli absenoldeb oherwydd salwch a lleihau’r defnydd o staff asiantaeth. Mae hefyd yn dangos sut y mae gweithlu’r GIG wedi parhau i dyfu i helpu i ddygymod â galw cynyddol. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn dal i fodoli. Mae trosiant staff yn dal yn uwch nag oedd cyn y pandemig, ac mae bylchau staffio’n dal i gyflwyno heriau go iawn i GIG Cymru. Ceir dros 5,600 o swyddi gwag yn GIG Cymru ar y cyfan, gyda thros 10% o swyddi meddygol a deintyddol yn wag ar hyn o bryd. Er bod gwariant ar staff asiantaeth wedi lleihau yn y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth ddal i gostio £262 miliwn i’r GIG yn 2023-24.
Mae twf yng ngweithlu’r GIG yn cael ei groesawu yng nghyd-destun galw cynyddol, ond daw hyn am bris. Mae costau staffio’r GIG wedi tyfu 62% ers 2017-18 ac roeddent yn £5.23 biliwn yn 2023-24. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, ceir cwestiwn pa un a yw twf parhaus yn ôl yr un gyfradd yn gynaliadwy. Mae angen i GIG Cymru addasu i’r galw newidiol y mae’n ei wynebu, ond ar hyn o bryd nid oes cynllun ganddo ar gyfer y gweithlu sy’n gysylltiedig â modelau gofal newydd a chynaliadwy. Ni ellir cynllunio’r gweithlu ar wahân. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gydag uwch arweinwyr yn GIG Cymru a phartneriaid allweddol i ymdrin â’r materion hyn trwy ddatblygu cynllun tymor hwy ar gyfer y gweithlu sy’n nodi:
Dim ond rhan o’r datrysiad yw ymdrin â’r angen am gynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu. Mae angen arweinyddiaeth eglur i’w ddatblygu a’i roi ar waith. Canfu’r adroddiad fod y trefniadau cyfredol ar gyfer cynllunio’r gweithlu’n fwyfwy cymhleth a bod y sefyllfa’n cael ei chymhlethu ymhellach gan ansicrwydd ynghylch trefniadau arweinyddiaeth systemau. Yn amlwg mae sefyllfa Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn hyn yn bwysig, ond ceir sefydliadau eraill sydd â rolau ategol. Mae angen i rôl Gweithrediaeth y GIG mewn perthynas â moderneiddio’r gweithlu a gwasanaethau fod yn fwy eglur.
Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith bod cynllunio’r gweithlu’n cael ei wneud yn anos gan ddiffyg eglurder ynghylch siâp gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol, gan fylchau mewn data ynghylch y gweithlu a chan gapasiti ac arbenigedd annigonol yng nghyrff y GIG. Hefyd, er bod niferoedd y lleoedd addysg a hyfforddiant a gomisiynir gan AaGIC wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, mae ffactorau megis fforddiadwyedd, capasiti o fewn y system i leoli myfyrwyr a niferoedd y ceisiadau’n cyfuno i osod cyfyngiadau ar “lifau” hyfforddiant pwysig.
Mae’r GIG yng Nghymru’n parhau i wynebu heriau sylweddol o ran y gweithlu. Gosododd y pandemig bwysau enfawr ar y GIG ac nid yw’r pwysau hwnnw wedi diflannu. Mae’r galw am wasanaethau’n dal i fod yn uchel ac mae disgwyl iddo dyfu ymhellach. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r GIG a’i bartneriaid addasu’r ffordd y maent yn gweithio a siapio’r gweithlu i ddiwallu’r anghenion newidiol hyn. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai datblygiadau cadarnhaol ond hefyd at yr angen am weithredu pwysig mewn nifer o feysydd, yn anad dim o ran datblygu dull cenedlaethol cryfach a mwy cydlynol o gynllunio’r gweithlu. Yn fy marn i mae hyn yn hollbwysig i ddatblygu gweithlu iechyd a gofal sy’n gryf ei gymhelliant, yn gydnerth ac yn meddu ar sgiliau priodol i sicrhau ei fod yn rhoi gofal cynaliadwy o’r ansawdd gorau posibl.