Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario llai ar ymgynghorwyr ond ni allant ddangos gwerth am arian o ran sut y maent yn cynllunio, yn prynu ac yn rheoli gwasanaethau ymgynghori, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol.
Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.
Gall mabwysiadu arferion da o ran caffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau gwell gwerth am arian, ac mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn nodi arbedion effeithlonrwydd posibl o fwy na £23 miliwn pe bai pob corff cyhoeddus yn dilyn arferion da. Fodd bynnag, prin yw'r cyrff cyhoeddus sy'n casglu ac yn dadansoddi data yn rheolaidd i'w cynorthwyo i brynu a defnyddio gwasanaethau ymgynghori yn fwy effeithlon, ac yn aml nid yw'r data ar wariant yn ddibynadwy. Canfu'r adroddiad hefyd:
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario llai ar ymgynghorwyr ond ni allant ddangos gwerth am arian o ran sut y maent yn cynllunio, yn prynu ac yn rheoli gwasanaethau ymgynghori, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Prin fu effaith mentrau wedi'u hanelu at annog dulliau cyson a chydlynus o gaffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori. Fodd bynnag, bydd Gwasanaeth Cynghori ar Ddefnyddio Ymgynghorwyr newydd, a fydd yn rhan o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn cynnig arweiniad i gyrff cyhoeddus ac yn rhannu enghreifftiau o arferion da. Nod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yw cryfhau caffael cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gwasanaethau ymgynghori wedi cael eu nodi fel un o'r prif gategorïau ar gyfer sicrhau arbedion posibl o hyd at £5.6 miliwn y flwyddyn.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys:
Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Hugh Vaughan Thomas heddiw:
Gall ymgynghorwyr fod o gymorth mawr i gyrff cyhoeddus o ran cynnig cyngor arbenigol i helpu i gyflwyno gwasanaethau a mentrau newydd yn gyflym, ond mae risgiau os na chânt eu rheoli'n effeithiol. Er bod gwariant ar ymgynghorwyr wedi lleihau ers 2007-08, mae angen i gyrff cyhoeddus fabwysiadu'r arferion da a nodir yn yr adroddiad hwn er mwyn gwella gwerth am arian a sicrhau arbedion effeithlonrwydd.'
Nodiadau i Olygyddion