Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Nid yw awdurdodau cynllunio yng Nghymru’n meddu ar y cydnerthedd y mae ei angen i gyflawni gwelliannau hirdymor, meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Mae gwasanaethau cynllunio yng Nghymru’n ei chael yn anodd rheoli system gymhleth yn wyneb capasiti annigonol ac adnoddau sy’n mynd yn llai. Dyna sy’n cael ei ddweud mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (6 Mehefin 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dengys yr adroddiad fod yr holl wasanaethau cynllunio wedi profi toriadau o 50% yn eu cyllideb yn y deng mlynedd ddiwethaf, ar ôl ystyried chwyddiant. Gyda llai o arian i ariannu gwasanaethau, mae capasiti swyddogion cynllunio’n gorfod ymestyn yn rhy bell ac mae sgiliau’n lleihau mewn meysydd allweddol. Ar ben hynny, mae nifer yr hyfforddeion sy’n ymuno â gwasanaethau cynllunio wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, gan godi pryderon ynghylch cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau.
Mae’r adroddiad hefyd yn dwyn ynghyd farn y cyhoedd o arolwg Cymru gyfan, lle canfuwyd datgysylltiad cynyddol rhwng yr hyn y mae ar bobl ei eisiau gan eu hawdurdod cynllunio a’r hyn y mae eu hawdurdod cynllunio’n gallu ei ddarparu. Dywedodd 67% o’r dinasyddion a arolygwyd nad yw awdurdodau cynllunio lleol yn ymgysylltu’n effeithiol â hwy ynghylch eu cynigion cynllunio, ac mae nifer yn teimlo bod cynllunwyr yn canolbwyntio’n fwy ar geisiadau unigol yn hytrach na rhoi cymorth i greu cymdeithas well a mwy cynaliadwy.
Mae’r penderfyniadau a wneir gan awdurdod cynllunio lleol yn effeithio arnom ni i gyd – gallant roi cymorth i ddatblygu cartrefi newydd, hybu cadwraeth, creu cyfleoedd gwaith a gwella seilwaith lleol. Ond tra bo cynllunwyr yn canolbwyntio ar geisiadau unigol, pryder dinasyddion Cymru yw nad oes digon yn cael ei wneud i greu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy.
Mae cynllunio da’n hanfodol ar gyfer cymunedau ffyniannus a chynaliadwy, ond mae angen gweledigaeth glir er mwyn i Gymru ffynnu. Rwy’n pryderu nad yw’r rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio lleol wedi diffinio’n glir sut y mae gwasanaethau cynllunio’n cyfrannu at lesiant pobl a chymunedau. Mae fy argymhellion wedi’u bwriadu i helpu i wella capasiti a chydnerthedd, gweithio tuag at ymgysylltu gwell â’r cyhoedd, a phennu gweledigaeth glir, uchelgeisiol sy’n dangos sut y gall cynllunio helpu i wella llesiant.
Nodiadau i Olygyddion: