Fe wnaethom archwilio sut y mae cynghorau Cymru’n rhoi cymorth ac anogaeth i ail-bwrpasu ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd yn gartrefi neu ar gyfer defnyddiau eraill.
Gyda lefelau uwch o alw’n cael eu gosod ar adnoddau naturiol, mae angen i’r Llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol daro cydbwysedd rhwng ymdrin â’r galw am dai ar y naill law a mesurau diogelu’r amgylchedd ar y llaw arall i helpu i leihau effaith yr argyfwng hinsawdd. Unwaith y caiff tir ei ddatblygu, mae'n annhebygol y bydd byth yn cael ei droi'n ôl yn ddefnydd maes glas, gan gael effeithiau amgylcheddol ac economaidd o ganlyniad. Mae Llywodraeth Cymru felly’n hybu'r arfer o ddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen ac ail-bwrpasu adeiladau gwag, lle bynnag y bo'n bosibl.
Fodd bynnag, mae datblygu safleoedd tir llwyd yn dwyn ei set ei hun o rwystrau. Er enghraifft, lle mae safleoedd mewn hen ardaloedd diwydiannol gall halogi a chostau adfer posibl wneud cost yn rhwystr, hyd yn oed os gwasanaethir y safle gan seilwaith, megis ffyrdd neu gyfleustodau. Mae hyn yn golygu bod datblygu’n aml yn dilyn cwys haws, gan fynd yn groes i bolisi cenedlaethol a chan gynyddu dibyniaeth ar safleoedd maes glas.
Mae ein hadroddiad yn archwilio sut y mae cynghorau Cymru’n rhoi cymorth ac anogaeth i ail-bwrpasu ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd. Rydym yn canolbwyntio ar y rhwystrau sy’n wynebu cynghorau a’u partneriaid, ond rydym hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu o fannau eraill.