Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Arolwg dinasyddion wedi'i lansio o gyflwr presennol gwasanaethau chwaraeon a hamdden cynghorau yng Nghymru
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: Mae angen i awdurdodau sicrhau bod yr hyn a ddarparant yn cael ei werthfawrogi gan ddefnyddwyr gwasanaethau a'i fod yn gosteffeithiol. Mae gwasanaethau hamdden yn agwedd bwysig ar ein bywydau beunyddiol, ond mae perygl y cânt eu lleihau yn y cylch cyfredol o doriadau i'r gyllideb. Hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i ddweud eu dweud am y gwasanaethau hyn a sut mae eu cyngor yn ymgynghori â thrigolion ynghylch ble i wneud toriadau i'r gyllideb.
Mewn cyfres o adroddiadau, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymchwilio i effaith y newidiadau hyn ar y cyhoedd yng Nghymru a hoffem glywed gennych er mwyn cael gwybod pa mor dda yw gwasanaethau hamdden eich cyngor lleol a beth y dylid ei wneud i'w gwella yn eich barn chi.