Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi sefydlu trefniadau gwell i gryfhau ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â Silent Valley.
Mae dyletswydd ar yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod adnoddau cyhoeddus o fewn eu stiwardiaeth yn cael eu diogelu a’u bod wedi sefydlu trefniadau priodol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n dda. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol nid dim ond i adnoddau cyhoeddus a ddefnyddir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ond mae’n ymestyn i adnoddau cyhoeddus a ddefnyddir gan gwmnïau y mae awdurdodau lleol yn berchen arnynt a/neu’n eu rheoli.
Cwmni y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn berchen arno ac yn ei reoli yw Silent Valley Waste Services Limited (Silent Valley).
Codwyd pryderon gyda’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch y berthynas rhwng y Cyngor a Silent Valley, ac fe benderfynodd yr Archwilydd Cyffredinol archwilio pa un a oedd y Cyngor wedi sefydlu trefniadau llywodraethu a goruchwylio effeithiol mewn perthynas â Silent Valley.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dod i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â sefydlu trefniadau cadarn ac effeithiol ar gyfer ei berthynas â Silent Valley rhwng 2003 a 2017. Canfu’r archwiliad nifer o bryderon arwyddocaol ynghylch digonolrwydd trefniadau’r Cyngor a chanfu fod y Cyngor wedi methu â gwneud y canlynol:
- mynd ati’n gywir i gymeradwyo trefniadau cyflog a phensiwn mewn perthynas â swyddogion y Cyngor a benodwyd i Fwrdd Silent Valley;
- cydymffurfio â rheoliadau caffael mewn perthynas â gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan Silent Valley;
- sicrhau bod penodiadau gan y Cyngor i Fwrdd Silent Valley yn cydymffurfio â chyfansoddiad y Cyngor;
- sefydlu trefniadau llywodraethu a goruchwylio priodol mewn perthynas â Silent Valley o 2012 ymlaen i sicrhau atebolrwydd am ddefnyddio adnoddau cyhoeddus;
- sefydlu trefniadau priodol i reoli gwrthdaro buddiannau posibl mewn perthynas â swyddogion y Cyngor a benodwyd i Fwrdd Silent Valley a olygodd fod y swyddogion hynny wedi bod yn agored i honiadau bod rhai o’u gweithredoedd wedi’u cymell gan hunan-fudd;
- sicrhau bod penderfyniadau i wneud taliadau terfynu i gyfarwyddwyr Silent Valley yn unol â’r gyfraith a dogfen lywodraethu Silent Valley; a
- sefydlu trefniadau cystadleuol a chadarn ar gyfer recriwtio Rheolwr Cyffredinol newydd Silent Valley (y swyddog uchaf ei reng yn y Cwmni) yn 2016.
Ers i archwiliad yr Archwilydd Cyffredinol ddechrau mae’r Cyngor wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r diffygion hirsefydlog yn ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â Silent Valley. Felly mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu gwneud un argymhelliad yn unig yn yr adroddiad hwn – y dylai’r Cyngor gomisiynu adolygiad i geisio sicrwydd bod ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â chwmnïau eraill y mae ganddo fudd ynddynt yn ddigonol ac effeithiol, ac nad yw’r diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai mwy cyffredinol.