Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae dyletswydd newydd ar yr Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru bellach yn un o nifer fach o Archwilwyr Cyffredinol ar draws y byd sydd â dyletswydd statudol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol heddiw.
Mae’r ddeddf newydd yn pennu nodau tymor hir i Gymru ac mae sgwrs genedlaethol am flwyddyn ar ‘Y Gymru a garem’ wedi dylanwadu ar y rhain. Pan ddaw i rym, bydd y gyfraith newydd yn golygu bod rhaid i lawer o’r cyrff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru wneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi ystyriaeth i arian, pobl a’u diwylliant, a’r blaned am y tro cyntaf. Hefyd bydd rhaid iddynt feddwl am effaith y penderfyniadau a wneir heddiw ar genedlaethau’r dyfodol.
Yn ogystal, mae’r gyfraith newydd yn dweud ei bod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio’n well; cynnwys pobl ac adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau; edrych ar y tymor hir yn ogystal â’r presennol a gweithredu er mwyn ceisio atal problemau rhag gwaethygu - neu eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf hyd yn oed.
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol:
“Rydw i’n falch iawn bod Swyddfa Archwilio Cymru a minnau wedi cael rôl mor greiddiol mewn asesu’r gydymffurfiaeth â’r Ddeddf hon. Mae Cymru ar y blaen o ran ceisio creu diwylliant a chymdeithas sy’n gwerthfawrogi ei phobl, ei hunaniaeth a’r amgylchedd, nid dim ond ar gyfer nawr, ond i genedlaethau i ddod. Bydd y ddyletswydd newydd yma i mi’n helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus Cymru’n canolbwyntio ar wneud penderfyniadau priodol am ein hadnoddau yng Nghymru, nawr ac ar gyfer y tymor hir hefyd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cyrff cyhoeddus i ddatblygu dull o weithredu manwl, ystyrlon a chymesur mewn perthynas â’r gwaith yma.”
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Agorir mewn ffenest newydd] hefyd yn dweud ei bod yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd yn ôl ar i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi rhoi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith fel a ganlyn:
Mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol unwaith o leiaf ym mhob cylch etholiadol o bum mlynedd.