Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae dau o hyfforddeion Swyddfa Archwilio Cymru wedi cipio gwobrau o fri, wrth iddynt weithio tuag at ennill eu cymwysterau Cyfrifydd Siartredig ACA gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).
Mae Dylan Rees a Neall Hollis ill dau wedi ennill gwobr Urdd Teilyngdod mewn Pwnc Rhyngwladol i gydnabod eu safonau cyflawniad uchel.
Enillodd Dylan Rees, Archwilydd dan Hyfforddiant yn ei drydedd flwyddyn, wobr Knox am gael y marciau uchaf ledled y byd yn y papur Adroddiadau Ariannol yn arholiadau ACA ym mis Rhagfyr.
Dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:
Mae'r rhain yn gyflawniadau gwirioneddol wych ac maent yn dangos safon uchel y myfyrwyr sydd gennym ar Gynllun Hyfforddeion Swyddfa Archwilio Cymru. Gobeithio y bydd y newyddion hyn yn annog myfyrwyr eraill i fynd ar drywydd gyrfa ym maes archwilio yn y sector cyhoeddus ac i wneud cais am ein Cynllun Hyfforddeion. Mae'r rownd ddiweddaraf ar agor i ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Sefydlwyd gwobr Knox drwy arian a adawyd yn ewyllys George Walter Knox, un o aelodau gwreiddiol ICAEW, a chyn-lywydd y sefydliad. Daeth Neall Hollis, Archwilydd dan Hyfforddiant yn ei drydedd flwyddyn, yn gydradd gyntaf yn y papur Strategaeth Fusnes, gan ennill gwobr Railton.
Cyflwynir y gwobrau i'r ddau yn seremoni wobrwyo Ryngwladol ACA yn Llundain ym mis Mai eleni.
Dywed Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Isobel Garner, heddiw:
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer y genhedlaeth nesaf o archwilwyr cyhoeddus ac rydym yn ymfalchïo'n fawr yng nghyflawniadau diweddar Dylan a Neall. Mae'r hyfforddiant rydym yn ei ddarparu yma yn Swyddfa Archwilio Cymru yn paratoi unigolion ar gyfer y rhan bwysig y byddant yn ei chwarae wrth helpu i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o arian cyhoeddus a bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.