Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gwariwyd £254 miliwn ar becynnau ymadael cynnar dros gyfnod o bron i bedair blynedd, ond gall hyn arbed hyd at £305 miliwn y flwyddyn ymhen amser.
Trawsgrifiad fideo [Word 14KB Agorir mewn ffenest newydd] (fideo yn Saesneg yn unig)
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi gwneud defnydd helaeth o ymadawiadau cynnar er mwyn lleihau costau’r gweithlu; un ymhlith llawer o bethau a wnaed i leihau’r costau yw hyn. At ei gilydd, cafodd yr ymadawiadau cynnar eu llywodraethu’n foddhaol ond nid oedd pob cynllun yn cydymffurfio’n llawn â’r egwyddorion ar gyfer dilyn arferion da. Dyma’r prif gasgliad sydd i’w weld mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dyma a ddywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru: Pan fydd staff yn ymadael yn gynnar, bydd cyrff cyhoeddus yn cael cyfle i ail-lunio eu gweithlu ac arbed costau yn wyneb cyni ariannol. Er hynny, mae’n hollbwysig rheoli’r ymadawiadau cynnar yn iawn fel y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd gwasanaethau’n dal ar gael ac y bydd yr arbedion a addawyd yn digwydd. Gall y costau y bydd angen eu talu ymlaen llaw wrth i staff ymadael yn gynnar fod yn sylweddol ac mae f’adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd craffu’n ddigonol ar becynnau, yn enwedig y rhai costus fel pecynnau i uwch reolwyr. Mae’r adroddiad yn ystyried a all cyrff cyhoeddus yng Nghymru brofi eu bod wedi sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio ymadawiadau cynnar i reoli neu leihau costau’r gweithlu. Mae’r adroddiad yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan 58 o gyrff cyhoeddus rhwng Chwefror a Mehefin 2014 ac mae’n edrych yn ôl ar y defnydd a wnaed o gynlluniau ymadael cynnar ers Ebrill 2010. Mae cynlluniau ymadael cynnar yn cynnig cymhelliad ariannol neu ‘becyn ymadael’ fel y bydd gweithwyr yn ymadael o’u swyddi, gyda’r disgwyliad cyffredinol y bydd y corff oedd yn eu cyflogi yn arbed arian ymhen amser.
Dyma a ddywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
Pan fydd staff yn ymadael yn gynnar, bydd cyrff cyhoeddus yn cael cyfle i ail-lunio eu gweithlu ac arbed costau yn wyneb cyni ariannol. Er hynny, mae’n hollbwysig rheoli’r ymadawiadau cynnar yn iawn fel y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd gwasanaethau’n dal ar gael ac y bydd yr arbedion a addawyd yn digwydd. Gall y costau y bydd angen eu talu ymlaen llaw wrth i staff ymadael yn gynnar fod yn sylweddol ac mae f’adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd craffu’n ddigonol ar becynnau, yn enwedig y rhai costus fel pecynnau i uwch reolwyr.
Mae’r adroddiad yn ystyried a all cyrff cyhoeddus yng Nghymru brofi eu bod wedi sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio ymadawiadau cynnar i reoli neu leihau costau’r gweithlu. Mae’r adroddiad yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan 58 o gyrff cyhoeddus rhwng Chwefror a Mehefin 2014 ac mae’n edrych yn ôl ar y defnydd a wnaed o gynlluniau ymadael cynnar ers Ebrill 2010. Mae cynlluniau ymadael cynnar yn cynnig cymhelliad ariannol neu ‘becyn ymadael’ fel y bydd gweithwyr yn ymadael o’u swyddi, gyda’r disgwyliad cyffredinol y bydd y corff oedd yn eu cyflogi yn arbed arian ymhen amser.
Rhwng Ebrill 2010 a Rhagfyr 2013, fe ymadawodd 10,658 o staff o’r 58 corff cyhoeddus yng Nghymru oedd yn rhan o’r arolwg, trwy gynlluniau ymadael cynnar. Mae hynny’n cyfateb i ryw bedwar y cant o’r gweithlu oedd gan y cyrff cyhoeddus yn Ebrill 2010. Digwyddodd tua 72 y cant o’r ymadawiadau cynnar yn yr awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol. Cyrff y GIG oedd yn cyfrif am 11 y cant a Llywodraeth Cymru am naw y cant. Fodd bynnag, mae’r 977 o staff a ymadawodd yn gynnar o Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn yn cyfateb i ryw 15 y cant o’r nifer a weithiai yno yn Ebrill 2010.
Roedd y gost a dalwyd ymlaen llaw er mwyn rhoi’r pecynnau hyn i weithwyr a ymadawodd yn gynnar yn dod i £254 miliwn. Fodd bynnag, canfu’r adroddiad y byddai’r cyrff cyhoeddus ar gyfartaledd yn dechrau arbed costau ar ôl 10 mis, ar yr amod nad oedd staff yn cael eu cyflogi yn lle’r rhain, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Wedi i’r cyfnod ad-dalu hwn ddod i ben, byddai’r cyrff cyhoeddus yn gallu arbed hyd at £305 miliwn y flwyddyn. Ond efallai na fyddai’r cyrff cyhoeddus yn gallu sicrhau’r arbedion hyn yn llawn, am sawl rheswm.
Fe wnaeth costau cyflogau staff ostwng o ryw £447 miliwn mewn termau real yn y cyrff cyhoeddus rhwng 2009-10 a 2013-14 ond nid yw’n glir i ba raddau y mae hynny i’w briodoli i ymadawiadau cynnar. Dengys yr adroddiad fod cyrff cyhoeddus wedi sicrhau arbedion o ran cost y gweithlu drwy amryw byd o ddulliau eraill, gan gynnwys ‘rheoli swyddi gwag’. Fodd bynnag, os na fydd swyddi gwag hanfodol yn cael eu llenwi, oherwydd yr ymgais i sicrhau arbedion yn y tymor byr, mae’r adroddiad yn nodi y bydd y staff sydd ar ôl efallai yn ysgwyddo baich ychwanegol. Gall hynny olygu mwy o absenoldeb oherwydd salwch a bod ysbryd y staff yn isel.
Er bod yr ymadawiadau cynnar wedi cael eu llywodraethu’n foddhaol at ei gilydd, mae’r adroddiad yn canfod bod lle i wella. Gwneir saith o argymhellion ac mae’r rhain yn sôn am: