Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae adroddiad dilynol i adolygiad ar wasanaeth cynllunio Ceredigion gan Archwilio Cymru wedi canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd cyflym wrth ddarparu gwelliannau i'r gwasanaeth.
Mae’r adroddiad yn dilyn adolygiad Archwilio Cymru ar wasanaeth cynllunio'r Cyngor yn 2021 a nododd wendidau hirsefydlog yn nhrefniadau llywodraethu Pwyllgor Rheoli Datblygu'r Cyngor.
Gweithiodd archwilwyr yn agos gyda'r Cyngor i nodi meysydd ar gyfer sylw a gwella sydd wedi ei alluogi i symud yn gyflym i ymateb i nifer o argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol a'u rhoi ar waith.
Mae'r archwiliad dilynol a gyhoeddir heddiw yn cydnabod y cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud, yn enwedig drwy gyflwyno sawl newid i'r trefniadau llywodraethu sy'n ategu ei Bwyllgor Rheoli Datblygu.
Mae hefyd yn darparu argymhellion ychwanegol sy'n cynnwys mireinio prosesau a threfniadau arolygu safle i sicrhau bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn canolbwyntio ar geisiadau strategol bwysig.
Mae'n galonogol gweld bod y Cyngor wedi ymateb yn adeiladol ac wedi cymryd camau cyflym wrth fynd i'r afael â'r argymhellion gwreiddiol ac wedi defnyddio'r cyfle i weithio'n agos gyda fy archwilwyr i ddechrau cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwaith cydweithrediadol ac adeiladol â chyrff archwiliedig. Rwy'n gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y berthynas hon wrth i'r Cyngor barhau i weithredu ein hargymhellion a mireinio ymhellach weithdrefnau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu a'i drefniadau llywodraethu.
Gwelsom fel awdurdod cynllunio fanteision sylweddol mewn cyfnod byr drwy weithio'n agos ac ar y cyd gyda thîm Archwilio Cymru. Nodwyd meysydd ar gyfer sylw a gwella yn gynnar yn y gwaith a gweithiodd archwilwyr yn agos gydag uwch swyddogion yr awdurdod i nodi'r llwybr cywir tuag at welliant. Roedd y broses a ddilynwyd yn sicrhau bod pawb yn deall yr angen am welliant ond yn bwysicach sut y gellid cyflawni hyn mewn cyfnod byr o amser. Cafwyd deialog rheolaidd ac agored gyda'r archwilwyr ac yna gwnaed gwelliannau cyflym gan yr awdurdod. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod ac yn diolch i'r archwilwyr am weithio mewn modd adeiladol gyda'r awdurdod. Mae llwyddiant y trefniant gweithio hwn wedi darparu model ardderchog o gydweithio ar gyfer y dyfodol. Roedd cyd-adeiladu cynllun gwella a model cyflawni sy'n mynd i'r afael â'r materion sylfaenol a nodwyd ar ddechrau'r rhaglen yn darparu'r canlyniadau mwyaf effeithiol posibl o fewn yr amserlenni byrraf.